Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Chwefror 2017.
Lywydd, yr hyn y cofiaf ei ddweud wrth yr Aelod pan soniodd am hyn ddiwethaf oedd y buaswn, yn ogystal ag ysgrifennu ato gyda manylion, yn ychwanegu’r eitem hon at yr agenda o faterion y byddaf yn eu trafod gydag awdurdodau lleol pan wyf mewn cysylltiad â hwy. Rwyf wedi gallu dechrau gwneud hynny. Rwy’n bwriadu defnyddio’r misoedd nesaf, tra bo’r Papur Gwyn yn destun ymgynghoriad, i ddefnyddio’r cyfle i siarad ag awdurdodau lleol am bethau heblaw diwygio llywodraeth leol. Felly, edrychaf ymlaen at allu rhoi’r mater a grybwyllodd yr Aelod wrthyf yn flaenorol ar yr agenda gydag awdurdodau lleol, a gwneud hynny gyda nifer fwy ohonynt yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.