Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch. Mae Plaid Cymru yn dadlau am ranbartholi syml, a dyna ydy’r cynghorau cyfunol. Rydym ni hefyd yn dadlau dros gyflwyno meiri etholedig fel ffordd o sicrhau atebolrwydd. Mae Plaid Cymru yn croesawu cynnwys y Papur Gwyn o ymrwymo i gyflwyno pleidlais gyfrannol fel ffordd o gynnal etholiadau llywodraeth leol. Mi fuasem ni’n gwneud pleidlais gyfrannol drwy STV yn fandadol i bob cyngor, ond mae cynnig y dewis yn gam i’r cyfeiriad cywir.
Mae’r ddadl dros gyflwyno system bleidlais gyfrannol bellach yn ddadl sydd yn derbyn cefnogaeth drawsbleidiol o fewn y Cynulliad, ac yn San Steffan hefyd, efo Aelodau nodedig o’ch plaid chi yn galw am system bleidleisio gyfrannol ar lefel genedlaethol hefyd. Felly, a ydych chi’n cytuno bod cynnig system bleidleisio gyfrannol drwy STV ar gyfer etholiadau cyngor, a’r egwyddor ar gyfer etholiadau cenedlaethol hefyd, yn ffordd ymarferol werthfawr o fywiogi ac adfer democratiaeth, a sicrhau bod pobl yn teimlo bod eu pleidlais yn cyfri, gan ddiogelu cynrychiolaeth deg i bob safbwynt gwleidyddol yng Nghymru?