Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 15 Chwefror 2017.
Lywydd, mae systemau pleidleisio yn faterion y ceir amrywiaeth o safbwyntiau yn eu cylch o fewn y pleidiau gwleidyddol, yn ogystal â rhwng pleidiau gwleidyddol. Y cynnig yn y Papur Gwyn yw caniatáu i awdurdodau lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn iddynt hwy yn eu cyd-destun eu hunain. Rwy’n siŵr y bydd trafodaeth fywiog yma yn y Cynulliad am y gwahanol safbwyntiau a fydd gan unigolion a phleidiau ynglŷn â’r ffordd orau o sicrhau system bleidleisio yn genedlaethol yng Nghymru sy’n galluogi pobl i deimlo cysylltiad â gwaith y Cynulliad Cenedlaethol, ac i deimlo bod y ffordd y maent yn bwrw eu pleidlais yn dylanwadu ar y ffordd y mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yma.