<p>Rhyddhad Ardrethi Busnes </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 2:01, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog—ac rwy’n sylweddoli eich bod i ffwrdd mewn cyfarfod cyllid ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gobeithio eich bod wedi cael gwybod gan eich swyddogion—fe nododd y Prif Weinidog y buasech yn cyflwyno datganiad ddiwedd yr wythnos hon yn amlinellu sut y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn mynd i gael ei ddosbarthu i fusnesau sy’n dioddef yn sgil yr ailbrisio. A gaf fi eich annog i ddefnyddio’r cyfle hwn, efallai—y trydydd cwestiwn yn y cwestiynau cyllid—i roi gwybod i’r Cyfarfod Llawn sut y bwriadwch wneud hynny yn hytrach nag aros tan ddiwedd yr wythnos pan na fydd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau y maent yn eu hystyried yn briodol o ystyried diddordeb eu hetholwyr yn y mater penodol hwn?