1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2017.
3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes yng Nghymru? OAQ(5)0089(FLG)
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, rhyddhad trosiannol a rhyddhad wedi’i dargedu ar gyfer y stryd fawr, i’w helpu i fuddsoddi a sicrhau twf economaidd hirdymor yng Nghymru, gan gynnal ffrwd ariannu gynaliadwy ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog—ac rwy’n sylweddoli eich bod i ffwrdd mewn cyfarfod cyllid ddoe, Ysgrifennydd y Cabinet, ond gobeithio eich bod wedi cael gwybod gan eich swyddogion—fe nododd y Prif Weinidog y buasech yn cyflwyno datganiad ddiwedd yr wythnos hon yn amlinellu sut y mae’r £10 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn mynd i gael ei ddosbarthu i fusnesau sy’n dioddef yn sgil yr ailbrisio. A gaf fi eich annog i ddefnyddio’r cyfle hwn, efallai—y trydydd cwestiwn yn y cwestiynau cyllid—i roi gwybod i’r Cyfarfod Llawn sut y bwriadwch wneud hynny yn hytrach nag aros tan ddiwedd yr wythnos pan na fydd cyfle i’r Aelodau ofyn cwestiynau y maent yn eu hystyried yn briodol o ystyried diddordeb eu hetholwyr yn y mater penodol hwn?
Wel, Lywydd, rwy’n gwneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr y ceir datganiad o’r fath cyn y toriad, ac rwy’n falch o gadarnhau yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog ddoe. Rydym yn y camau olaf un o roi’r holl gynigion hyn at ei gilydd. Rydym yn dal i aros am rywfaint o’r data diwethaf un gan yr awdurdod prisio er mwyn caniatáu inni wneud hynny. Wrth gwrs, rwy’n deall y bydd gan lawer o’r Aelodau yn y Siambr ddiddordeb uniongyrchol yn y manylion. Os bydd unrhyw Aelod angen rhagor o wybodaeth, neu os oes ganddynt gwestiynau y maent am eu gofyn, rwy’n hapus iawn i ddweud y gwnaf fy ngorau i ymateb iddynt yn unigol cyn gynted â phosibl, ar ôl i’r datganiad hwnnw gael ei wneud.
Ysgrifennydd y Cabinet, ar ddiwrnod pan ydym yn aros am ganlyniadau pleidlais Tata Steel mewn perthynas â’r diwydiant dur a dyfodol hynny, mae’n bwysig ein bod yn egluro’r sefyllfa o ran ardrethi busnes gyda dur. Soniwyd droeon yn y Siambr hon am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi. A ydych wedi cael trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU neu swyddogion yr UE mewn perthynas â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i leihau’r ardrethi busnes? Oherwydd mae honno’n elfen bwysig er mwyn sicrhau chwarae teg ar draws Ewrop.
Wel, diolch i David Rees am hynny. Prin yw’r cwestiynau, Lywydd, sy’n pwyntio at sector lle y mae gwerthoedd ardrethol wedi lleihau’n sylweddol o ganlyniad i ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ddiweddar. Yma yng Nghymru, bydd y gostyngiad yn y biliau a delir gan y diwydiant dur yn effeithio’n sylweddol ar y diwydiant hwnnw. Yn wahanol i Loegr, byddwn yn caniatáu i’r diwydiant gael y budd llawn o’r gostyngiadau hynny am nad ydym yn ariannu’r cymorth a roddwn i bobl y mae eu biliau’n codi drwy fynd ag arian oddi wrth gwmnïau y mae eu biliau’n gostwng. Rwy’n gwybod bod llawer o sylwebaeth wedi bod yn Lloegr yn galw am drin y diwydiant dur yn Lloegr yr un mor fanteisiol â’r diwydiant dur yng Nghymru. Felly, diolch i’r Aelod am y cwestiwn am ei fod yn tynnu sylw at ran arbennig o bwysig o’r ffordd yr ydym yn cyflawni’r pethau hyn yma yng Nghymru.
Weinidog, mae masnachwyr ym marchnad Castell-nedd wedi cael cynnig llai o ardrethi busnes ers peth amser, gyda rhai yn elwa o dalu dim o gwbl. Fodd bynnag, yn ddiweddar, bûm yn siarad gyda rhai masnachwyr yn y farchnad a ddywedodd wrthyf fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot wedi codi eu rhenti i’r pwynt lle y bydd rhai yn cael eu gorfodi i gau neu symud eu busnes i fannau eraill. A fuasech yn cytuno bod cynnig cymhelliad economaidd ar ffurf gostyngiad mewn ardrethi busnes, a chodi rhenti wedyn ar yr un pryd, yn tanseilio holl bwynt y gostyngiad yn yr ardrethi busnes? Ac a wnewch chi ymuno â mi o bosibl i ysgrifennu at gyngor Castell-nedd Port Talbot i fynegi’r pryderon hyn? Mae’n fater real iawn ar hyn o bryd, lle y mae llawer o’r masnachwyr yn dweud na allant weld dyfodol yn y farchnad os na fydd pethau’n newid.
Nid wyf yn ymwybodol o’r mater, ond rwy’n hapus iawn i gytuno i ysgrifennu at y cyngor i ddarganfod mwy am y camau y maent wedi’u rhoi ar waith.