Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 15 Chwefror 2017.
Wel, rwy’n cydnabod y pwynt y mae’r Aelod yn ei wneud. Wrth gwrs, mae lot o’r pethau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru ar y ffin yn dibynnu ar bethau sy’n mynd ymlaen dros y ffin hefyd, ac mae’r penderfyniadau yr ŷm ni’n eu gwneud yng Nghymru yn cael effaith yn Lloegr ac mae pethau y maen nhw’n eu gwneud yn Lloegr hefyd, y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud, yn cael effaith arnom ni, ac ym maes cyfalaf, mae hynny’n bwysig. Rŷm ni yn rhannu gwybodaeth pan fydd pobl yn gofyn inni am y wybodaeth a phan ŷm ni’n cydweithio gyda’r awdurdodau dros y ffin hefyd.
Nid wyf wedi dod ar draws unrhyw le ble rwy’n gallu cofio problemau yn codi, ond os oes mwy o fanylion gyda’r Aelod am ble mae pethau yr ŷm ni’n gallu eu gwneud yn well, rwyf i wrth gwrs yn hollol hapus i ystyried hynny.