Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 15 Chwefror 2017.
A gaf fi groesawu’r symudiad at ddefnydd mwy soffistigedig o ddata, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy’n credu ei fod yn bwysig iawn, gan ei fod yn caniatáu i ni, neu’n rhoi cyfle i ni sicrhau’r potensial mwyaf posibl o wariant cyhoeddus. Er enghraifft, mewn ardaloedd lle y darperir lefel uchel o ofal plant o ffynonellau’r wladwriaeth, buaswn yn disgwyl gweld llawer o’r boblogaeth leol yn ymwneud â darparu’r gwasanaethau gofal plant hynny, ac os nad ydynt, mae’n golygu, yn amlwg, fod pobl yn dod i mewn o’r tu allan i’r ardal honno i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw—peth da ynddo’i hun, ond nid ydym yn cael y gorau am y bunt Gymreig o reidrwydd yn yr ardaloedd mwy difreintiedig os nad yw gwariant cyhoeddus yn cael ei ailgylchu’n drylwyr yn eu heconomi.