<p>Awdurdod Cyllid Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:13, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, llofnodais lythyr yn gynharach heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—un o nifer o lythyrau a anfonais at y Cadeirydd heddiw—lle y nodais y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chostau Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n ymrwymo i ddarparu diweddariad pellach tra bydd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn y llythyr hwnnw rwy’n dweud ein bod yn parhau’n hyderus y bydd costau sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn y £4.8 miliwn i £6.3 miliwn a nodwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a’n bod yn parhau i ddisgwyl i Awdurdod Cyllid Cymru weithredu mewn sefyllfa sefydlog rywle rhwng £2.8 miliwn a £4 miliwn y flwyddyn.