1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 15 Chwefror 2017.
5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran datblygu Awdurdod Cyllid Cymru? OAQ(5)0099(FLG)
Diolch i Nick Ramsay am hynny. Mae cynnydd da wedi’i wneud ar sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Yfory, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal gwrandawiad cyn penodi gyda’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer swydd cadeirydd yr awdurdod hwnnw.
Rwy’n credu bod yna adlais yn y Siambr hon heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae’n bwnc pwysig, felly rwy’n pwysleisio. Roedd dydd Llun, fel y dywedoch, yn ddiwrnod pwysig arall ar daith dreth Cymru: cyhoeddi Kathryn Bishop fel hoff ymgeisydd Llywodraeth Cymru i ddod yn gadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru. Fel y gwyddoch, bydd y Pwyllgor Cyllid yn cynnal sesiwn wrandawiad cyn penodi yfory. Pan fynychais un o gyfarfodydd embryonig Awdurdod Cyllid Cymru yn Stadiwm y Mileniwm, rwy’n eich cofio’n dweud, yn eich datganiad swyddogol, y buasai’n rhaid i natur swydd y cadeirydd gael ei benderfynu’n derfynol cyn y penodiad, h.y. a yw’n gadeirydd trosiannol neu’n gadeirydd parhaol, a yw’n gadeirydd gyda phrofiad blaenorol o reoli a sefydlu cyrff fel hyn neu brofiad cyllidol, ac ai cadeirydd sy’n mynd i chwarae’r brif rôl gyhoeddus neu’r prif weithredwr. Wrth i ni nesáu at y penodiad hwn, a allwch daflu ychydig o oleuni ar y math o gadeirydd y gallwn ddisgwyl i Kathryn Bishop fod? Rwy’n rhagdybio y bydd yn cyflawni un o’r rolau pwysicaf—byddwn yn trafod hyn yfory, fel y dywedodd Simon Thomas—un o’r rolau pwysicaf ym mywyd cyhoeddus Cymru. Rwy’n meddwl bod angen i ni wybod beth yw natur y swydd y penderfynwyd arni cyn i’r broses recriwtio ddechrau.
Wel, diolch i Nick Ramsay am hynny. Rwy’n awyddus iawn i beidio â thresmasu ar diriogaeth y Pwyllgor Cyllid, a fydd, rwy’n siŵr, eisiau archwilio’r union faterion hyn gyda’r ymgeisydd penodol dan sylw. Os yw’n gofyn i mi beth y credwn fy mod yn chwilio amdano’n benodol, yna roeddwn yn teimlo ei bod yn bwysig iawn rhoi pwyslais ar ddenu ymgeisydd a fyddai â brwdfrydedd gwirioneddol tuag at y gwaith sydd angen ei wneud wrth sefydlu corff newydd. Rwy’n meddwl bod pobl yn dod â sgiliau i gorff sydd eisoes mewn sefyllfa sefydlog, a’u gwaith hwy yw sicrhau ei fod yn parhau i weithredu mewn modd effeithiol, ac rwy’n meddwl y gallai fod set ychydig yn wahanol o brofiadau a diddordebau i rywun sydd â’r gwaith o osod sefydliad Cymreig newydd pwysig ar ei draed ac ar waith. Pan oeddwn gyda Revenue Scotland ddoe, Lywydd, cyfarfûm â phrif weithredwr a chadeirydd yr awdurdod, ac roeddent yn dweud wrthyf, ‘Pa gynllun bynnag sydd gennych ar ddechrau Awdurdod Cyllid Cymru, rhaid i chi wynebu’r ffaith y byddwch yn newid y cynllun hwnnw’n rheolaidd yn ystod y flwyddyn gyntaf am na fydd profiad a disgwyliad yr un fath.’ Mae angen rhywun, felly, sy’n ddigon hyblyg ac mewn cytgord â hynny i wneud y swydd yn llwyddiannus. Rwy’n gobeithio y bydd yr ymgeisydd y bydd y Pwyllgor Cyllid yn clywed ganddynt yfory yn ateb y gofyn hwnnw, ac edrychaf ymlaen at weld beth fydd gan y Pwyllgor Cyllid i’w ddweud o ganlyniad i’w waith craffu.
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau bod costau rhedeg Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn yr amcangyfrifon a gyhoeddwyd y llynedd?
Wel, Lywydd, llofnodais lythyr yn gynharach heddiw at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid—un o nifer o lythyrau a anfonais at y Cadeirydd heddiw—lle y nodais y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â chostau Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n ymrwymo i ddarparu diweddariad pellach tra bydd y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac yn y llythyr hwnnw rwy’n dweud ein bod yn parhau’n hyderus y bydd costau sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau o fewn y £4.8 miliwn i £6.3 miliwn a nodwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, a’n bod yn parhau i ddisgwyl i Awdurdod Cyllid Cymru weithredu mewn sefyllfa sefydlog rywle rhwng £2.8 miliwn a £4 miliwn y flwyddyn.