10. 9. Dadl Fer: Mynd i'r Afael ag Unigrwydd ac Unigedd yng Nghymru, Gweithio mewn Partneriaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:58 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 6:58, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Caroline Jones am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac i bob un o’r siaradwyr am roi cyfle i ni archwilio sut y gallwn fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod hwn yn fater na ellir mynd i’r afael ag ef oni bai ein bod yn gweithio mewn partneriaeth.

Gall unigrwydd ac arwahanrwydd effeithio’n sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol, a dyna pam y mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ymrwymiad penodol i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol i ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym yn cydnabod yr angen i weithio gyda’n gilydd ar draws y Llywodraeth ac rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r cyhoedd a’n partneriaid allanol. Mae hwn yn ddull o weithredu a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus eisoes mewn nifer o feysydd, gan gynnwys y gwaith a ddatblygwyd gennym drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ymagwedd hon yn ymwneud â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, beth y gall cyrff statudol a’r trydydd sector a’r sector annibynnol ei wneud, ond hefyd, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn y gall pobl a chymunedau lleol ei wneud.

Fel y nododd Jane Hutt yn y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn yn ddiweddar, mae gan ein cymunedau draddodiad hir o fod yn lleoedd lle y bydd pobl yn gwneud eu gorau i helpu ei gilydd. Fodd bynnag, wrth i gymdeithas newid ac wrth i deuluoedd ddod yn fwy gwasgaredig, mae mwy o bobl yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd, a chredaf fod yr enghreifftiau a roddodd Mike Hedges wedi dod â hynny’n fyw i ni heno.

Rydym eisoes yn gweithredu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru drwy ystod o raglenni a mentrau. Er bod y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl hŷn, rydym yn cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn effeithio ar fwy na phobl hŷn yn unig, ac rwy’n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ein hatgoffa o’r ffaith honno hefyd. O ran y gwaith sydd ar y gweill, mae’n cynnwys rhaglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr y cyfeirir atynt fel Cymunedau Tosturiol, ac rydym hefyd yn gwybod am bwysigrwydd cyfeillio. Rydym wedi darparu ystod o gyllid i gefnogi’r agenda hon, ac mae’n cynnwys cymorth i’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, sydd â ffrwd waith benodol yn edrych ar unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i nifer o fudiadau trydydd sector i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae Diverse Cymru yn cynnal ymgyrch gyda chefnogaeth gan sefydliadau eraill i helpu i frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae Sight Cymru yn gweithio ar brosiect i gyflwyno rhaglenni cymorth arbenigol dwyieithog dan arweiniad cleifion, sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r arwahanrwydd cymdeithasol a all ddod yn aml wrth i chi golli eich golwg. Mae rhaglen Teithiau’r mudiad Gofal yn anelu i wella ac ehangu’r model cyfredol o grwpiau cymorth gan gymheiriaid sy’n rhoi cyfle i bobl â phroblemau iechyd meddwl i rannu profiadau, meithrin hunan-barch a hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Ac rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sydd mewn perygl o ddatblygu salwch meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd.

Yn ddiweddar mynychais lansiad Ffrind i Mi yng Nghasnewydd. Mae’r cynllun yn anelu i recriwtio cymaint o wirfoddolwyr o gymunedau lleol ag y bo modd i ddarparu cefnogaeth i bobl eraill, ac wrth wneud hynny mae’n anelu i baru gwirfoddolwyr a phobl sydd â diddordebau a chefndiroedd tebyg, fel cyn-filwyr sy’n cefnogi cyn-filwyr, er enghraifft. Ac rwy’n credu y bydd cyfeillgarwch go iawn yn datblygu drwy’r model hwn, a fydd o fudd i’r unigolyn a’r gwirfoddolwr. Mae hon yn enghraifft dda iawn o’r hyn y gall pobl ei wneud yn lleol, ac mae’n cyd-fynd yn dda â’n model o ddatblygu cymunedau tosturiol. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref—nid oeddwn yn gyfarwydd â hwnnw o’r blaen—yng ngorllewin Cymru a Chlwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro hefyd. Diolch i Janet Finch-Saunders unwaith eto am dynnu sylw at y gwasanaeth pwysig y gall y Llinell Arian ei gynnig.

Rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn rhoi cyfle da iawn i ni gydnabod a diolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n barod i roi rhywfaint o’u hamser i gefnogi pobl eraill, gan gynnwys etholwr Joyce Watson, Stephen. Er bod llawer o enghreifftiau o gynlluniau eraill tebyg, gwyddom fod mwy i’w wneud ac rydym yn sylweddoli difrifoldeb unigrwydd ac arwahanrwydd, a’r effaith ar iechyd meddwl a lles pobl. Rwy’n credu bod rhai o’r ffigurau y siaradodd Caroline Jones amdanynt yn gignoeth iawn ar ddechrau’r ddadl hon o ran dangos yr effaith ar iechyd, yn wirioneddol syfrdanol hefyd.

Ers y ddadl flaenorol ar unigrwydd ac arwahanrwydd a gynhaliwyd y mis diwethaf, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi gwybodaeth am yr ymchwiliad y byddant yn ei gynnal. Byddant yn ystyried: y dystiolaeth ynglŷn ag achosion a maint y broblem; yr effaith ar bobl hŷn ac a yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol, megis pobl â dementia; yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yr effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol; a thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r ymyriadau sy’n gallu helpu mewn gwirionedd, ac atebion polisi cyfredol a’u costeffeithiolrwydd. Felly, rwy’n edrych ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn rhan o’r ffordd y byddwn yn datblygu ein strategaeth ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Felly, i gloi, hoffwn sicrhau’r Aelodau ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â mater unigrwydd ac arwahanrwydd. Er bod hwn yn fater penodol i bobl hŷn, ac er y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y grŵp hwn, byddwn yn manteisio ar y cyfle i sicrhau bod grwpiau eraill o bobl sy’n dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd yn cael eu cefnogi hefyd. Mae gan bawb ohonom rôl i’w chwarae a bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth os ydym yn mynd i ddarparu cefnogaeth i ffrindiau, aelodau o’r teulu, cymdogion a chydweithwyr a allai fod yn dioddef unigrwydd neu arwahanrwydd.