– Senedd Cymru am 6:45 pm ar 15 Chwefror 2017.
Symudwn yn awr at y ddadl fer, felly, os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny’n dawel, yn gyflym. Rwy’n mynd i alw ar Caroline Jones i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Caroline.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson, Janet Finch-Saunders a Mike Hedges.
Ysgrifennwyd y canlynol yn 1966, ac mae’n tynnu sylw yn fwy huawdl at bwnc unigrwydd ac arwahanrwydd nag unrhyw eiriau y gallwn eu cyfansoddi.
Beth a welwch, nyrsys, beth a welwch? / Beth a feddyliwch pan fyddwch yn edrych arnaf fi? / Ai hen wraig grablyd, heb fod yn ddoeth iawn, / Ansicr ei hanian, a’i llygaid ymhell, / Sy’n driblan ei bwyd ac nid yw’n ateb / Pan fyddwch yn dweud mewn llais uchel, "Hoffwn pe baech chi’n gwneud ymdrech". / Sydd i’w gweld fel pe na bai’n sylwi ar y pethau rydych yn eu gwneud / Ac yn colli hosan neu esgidiau o hyd. / Hon sydd, yn ufudd ai peidio, yn gadael i chi wneud fel y mynnwch / Gyda golchi a bwydo i lenwi’r diwrnod hir. / Ai dyna beth a feddyliwch, ai dyna a welwch? / Os felly, agor dy lygaid, nyrs, rwyt ti’n edrych arnaf fi. / Fe ddywedaf wrthyt pwy wyf fi wrth i mi eistedd yma mor llonydd! / Wrth i mi godi yn ôl dy orchymyn, wrth i mi fwyta yn ôl dy ewyllys. / Rwy’n blentyn bach 10 oed ac mae gennyf dad a mam, / Brodyr a chwiorydd, sy’n caru ein gilydd, / Merch ifanc 16 oed gydag adenydd o dan ei thraed, / Yn breuddwydio y daw câr iddi ei gyfarfod, yn fuan nawr, / A phriodferch yn fuan, yn 20 oed—mae fy nghalon yn rhoi naid, / Wrth gofio’r addunedau yr addewais eu cadw. / Yn 25 oed yn awr mae gennyf rai bach fy hun / Sydd angen i mi adeiladu cartref hapus diogel; / Menyw 30 oed, mae fy mhlant bellach yn tyfu’n gyflym, / Wedi’u huno â chlymau a ddylai bara; / Yn 40 oed, mae fy meibion ifanc wedi tyfu ac wedi mynd, / Ond mae fy ngŵr wrth fy ochr felly nid wyf yn galaru; / Yn 50 oed, unwaith eto daw mwy o fabanod i chwarae ar fy nglin, / Unwaith eto, rydym yn adnabod plant, fy ngŵr annwyl a mi. / Daw dyddiau blin, mae fy ngŵr wedi marw, / Edrychaf tua’r dyfodol, rwy’n crynu gan arswyd, / Oherwydd mae fy mhlant yn magu plant eu hunain. / Ac rwy’n meddwl am y blynyddoedd ac am y cariad a brofais; / Rwy’n hen wraig yn awr ac mae natur yn greulon—/ Ei thric yw gwneud i hen oed ymddangos yn ffwl. / Mae’r corff yn crebachu, mae gosgeiddrwydd ac egni’n ymadael, / Bellach mae carreg lle gynt roedd calon, / Ond y tu mewn i’r hen garcas, mae merch ifanc yn dal i fod, / Ac o bryd i’w gilydd mae fy nghalon gleisiog yn chwyddo, / Rwy’n cofio’r llawenydd, rwy’n cofio’r boen, / Ac rwy’n caru ac yn byw bywyd drachefn / Meddyliaf am y blynyddoedd, rhy ychydig, wedi mynd yn rhy gyflym. / Ac yn derbyn y ffaith greulon na all dim bara. / Felly agorwch eich llygaid, nyrsys, agorwch hwy a gwelwch, / Nid hen wraig grablyd, edrychwch yn nes—/ Gwelwch Fi. ‘
A dyma ateb y nyrs i’r gerdd hon:
"Beth a welwch?", gofynni, "Beth a welwn?" / Ydym, rydym yn meddwl wrth edrych arnat! / Efallai ein bod yn ymddangos yn galed pan fyddwn yn brysio’n llawn ffwdan, / Ond mae llawer ohonoch chi, a chyn lleied ohonom ni.
Hoffem lawer mwy o amser i eistedd gyda chi a siarad, / I’ch golchi a’ch bwydo a’ch helpu i gerdded. / I glywed am eich bywydau a’r pethau a wnaethoch; / Eich plentyndod, eich gŵr, eich merch, eich mab. / Ond mae amser yn ein herbyn, mae gormod i’w wneud—/ Gormod o gleifion, a nyrsys yn brin. / Galarwn wrth eich gweld chi mor drist ac unig, / Gyda neb yn agos i chi, dim ffrindiau eich hun.
Rydym yn teimlo poen pob un ohonoch, ac yn gwybod am eich ofn / Nad oes neb yn malio nawr fod eich diwedd yn agos. / Ond mae nyrsys yn bobl â theimladau hefyd, / A phan fyddwn gyda’n gilydd byddwch yn aml yn ein clywed yn sôn / Am yr hen Nain annwyl yn y gwely ar y pen, / A’r hen Dad hyfryd, a’r pethau a ddywedai, / Rydym yn siarad gyda thosturi a chariad, ac yn teimlo’n drist / Pan fyddwn yn meddwl am eich bywydau a’r llawenydd a gawsoch, / Pan ddaw’r amser i chi ymadael, / Byddwch yn ein gadael gyda phoen yn ein calon.
Pan fyddwch yn cysgu’r cwsg hir, heb ragor o boeni na gofalon, / Mae yna bobl eraill sy’n hen, ac mae’n rhaid i ni fod yno. / Felly ceisiwch ddeall os byddwn ar frys ac yn llawn ffwdan—/ Mae llawer ohonoch chi, / A chyn lleied ohonom ni.’
Mae’r gerdd deimladwy hon yn helpu i gyfleu realiti dyddiol llawer o bobl hŷn yn ein cymdeithas. Yn ôl arolwg Age Cymru a gynhaliwyd yn 2014, mae cymaint â 75,000 o bobl dros 65 oed sy’n byw yng Nghymru yn dweud eu bod yn unig. Mae bron ddwy ran o dair o fenywod wedi nodi eu bod pryderu am unigrwydd yn eu henaint. Canfu’r WRVS fod 75 y cant o bobl dros 75 oed a oedd yn byw ar eu pen eu hunain yn teimlo’n unig. Gwelsant hefyd mai dynion hŷn yng Nghymru yw’r rhai mwyaf unig yn y DU.
Dengys ymchwil fod unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol mor niweidiol i’n hiechyd ag ysmygu 15 sigarét y dydd. Mae unigrwydd yn cynyddu’r tebygrwydd o farw’n gynnar tua 45 y cant. Mae unigrwydd yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu clefyd coronaidd y galon a strôc. Mae unigrwydd yn cynyddu’r risg o bwysedd gwaed uchel. Mae unigolion unig hefyd yn wynebu risg fwy o fynd yn anabl. Daw un astudiaeth i’r casgliad fod pobl unig 64 y cant yn fwy tebygol o ddatblygu dementia clinigol.
Felly, beth y gallwn ei wneud i atal y lladdwr cudd a thawel hwn? Mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi galw am i Fil Iechyd Cyhoeddus (Cymru) osod dyletswydd ar fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd fel rhan o’u hymgyrch les—galwadau rwy’n eu cefnogi’n llwyr. Mae Age Cymru yn gweithredu canolfannau heneiddio’n dda yng ngogledd Cymru mewn ymdrech i integreiddio pobl hŷn yn eu cymunedau lleol a’u hatal rhag teimlo unigrwydd. Mae gan fudiad y Siediau Dynion ganolfannau sefydledig yng Nghymru. Mae’r mudiad, a ddechreuodd yn Awstralia, yn ffordd newydd i ddynion fynd ar drywydd eu diddordebau, datblygu rhai newydd, perthyn i grŵp unigryw, teimlo’n ddefnyddiol, boddhad, ymdeimlad o berthyn. Ond rwyf am ganolbwyntio ar grŵp Cymreig a sefydlwyd i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng ngorllewin Cymru—y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref. Mae pob ymwelydd yn meddu ar sgiliau gwrando gwych ac wedi cael hyfforddiant proffesiynol priodol. Mae’r ymwelwyr bob amser yn arddangos proffesiynoldeb, yn dangos empathi ac yn ymdrin â’r bobl hŷn y maent yn gweithio gyda hwy gyda llawer iawn o ddidwylledd, gonestrwydd a pharch. Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn dod i adnabod y bobl hŷn y maent yn ymweld â hwy. Maent yn ymweld â phob person dros gyfnod o 10 o ymweliadau wyneb yn wyneb ac yn defnyddio hel atgofion cywair isel i edrych ar hanes eu bywyd mewn ffordd sy’n eu helpu i gael cipolwg ar eu profiadau bywyd ac i deimlo’n dda am eu hunain. Argymhellodd Cymdeithas Alzheimer y defnydd o hel atgofion oherwydd yr effeithiau cadarnhaol y mae’n ei gael ar iechyd meddwl. Yn ôl ymchwil, mae therapi hel atgofion yn ymyrraeth nyrsio effeithiol ar gyfer gwella hunan-barch, lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac iselder, ac yn darparu cysur yn y boblogaeth oedrannus.
Yn dilyn yr ymweliadau wyneb yn wyneb, mae’r ymwelydd yn y cartref yn cynnal cyswllt ffôn gyda’r person hŷn am oddeutu chwe mis. Erbyn iddynt newid o ymweliadau wyneb yn wyneb i ffonio am sgwrs, mae’r ymwelwyr yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo eu bod wedi magu perthynas gyda’r person hŷn.
Cafodd y cynllun croeso i ymwelydd yn y cartref ei ariannu drwy grant elusennol i ddarparu gwasanaeth i bobl unig ac ynysig yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae eu cyllid yn rhedeg tan fis Medi, ond maent yn awr yn ystyried cynnig y gwasanaeth i Gymru gyfan. Roedd y cyllid gan Sefydliad Sobell yn darparu ar gyfer cydlynydd prosiect a thîm bychan o ymwelwyr sydd wedi helpu tua 120 o bobl hyd yn hyn.
Rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref yn wasanaeth ardderchog a allai arbed miliynau o bunnoedd drwy leihau derbyniadau y gellir eu hosgoi i’r ysbyty a dibyniaeth ar y sector gofal. Mae’r cymunedau yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi elwa’n fawr o’r prosiect hwn, ac rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth Cymru weithio gyda’r grŵp i sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn elwa ar y gwasanaeth gwerthfawr hwn. Diolch yn fawr.
Rwyf finnau hefyd am dalu teyrnged i Glwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro. Mewn gwirionedd maent yn rhedeg cynllun ar gyfer pob unigolyn anabl, beth bynnag yw eich anabledd. Treuliais beth amser yno, yng nghanolfan hamdden Aberdaugleddau, yn eu cwmni ddydd Llun diwethaf. Roedd hi’n hollol glir fod pobl a oedd wedi bod yn gwbl ynysig cyn hynny bellach yn dod at ei gilydd fel grŵp ar y cyd. Hoffwn dalu teyrnged yma i Stephen a’i wraig, Olwen Whitmore, sy’n rhedeg y clwb ac wedi gwneud hynny ers pedair blynedd i wneud yn siŵr fod y bobl hynny, beth bynnag yw eu hanabledd, yn cael cyfle i ddod at ei gilydd—a geiriau’r bobl y siaradais â hwy yw’r rhain—i deimlo’n ddynol unwaith eto, i deimlo’n rhan o gymdeithas unwaith eto, ac mae wedi gwella eu hiechyd meddwl, a’u hiechyd corfforol yn ogystal. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf am ofyn i chi gydnabod y gwirfoddolwyr hyn, sydd weithiau’n unig eu hunain neu a fyddai’n unig eu hunain, am helpu i leihau unigrwydd, arwahanrwydd a phopeth sydd ynghlwm wrth hynny.
Hoffwn dalu teyrnged i’r Aelod—Caroline, Aelod Cynulliad—am gyflwyno hyn yma heddiw. Gall yr effeithiau ar les meddwl rhywun o ganlyniad i unigrwydd ac arwahanrwydd fod yn ddinistriol. Mae’r comisiynydd pobl hŷn wedi nodi unigrwydd ymysg pobl hŷn fel mater iechyd cyhoeddus pwysig. Mae 75,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn teimlo’n unig, gyda bron i hanner y rheini’n dweud mai eu teledu neu anifail anwes oedd eu prif gydymaith, a’u hunig gydymaith yn aml. Ac eto, nid yw’n ymwneud bob amser â phobl hŷn. Gall unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol effeithio ar unrhyw un o unrhyw oed, ac mae’n hanfodol nad ydym yn anghofio’r effaith y gall hyn ei chael ar les corfforol a meddyliol yr unigolyn: anobaith, iselder, mewnblygrwydd, dryswch, diffyg maeth a hylif hyd yn oed, gan fod y cymhelliant i barhau i fyw yn aml yn cael ei amharu.
Heddiw, hoffwn alw ar y Gweinidog yn Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn cael rhywfaint o atebion ymarferol. Gall canolfannau dydd dorri’r undonedd o fyw ar eich pen eich hun a’i gwneud yn bosibl creu ymgysylltiad cymdeithasol, ond yn aml iawn, nid ydynt yn hygyrch i bobl, felly hoffwn weld mwy o gefnogaeth yn cael ei roi i’n seilwaith trafnidiaeth gymunedol. Mae angen cyllid ar gyfer hynny er mwyn i bobl allu gwneud defnydd o’r cyfleusterau hyn mewn gwirionedd. Mae arnom angen dull cydgysylltiedig o weithredu. Hoffwn dalu teyrnged i Esther Rantzen, mewn gwirionedd, a ddarparodd wasanaeth ffôn bedair blynedd yn ôl y gallwch ei ffonio, ac fe’i gelwir yn Llinell Arian. Gall pensiynwyr sgwrsio, i gael cyngor neu gymorth, neu i roi gwybod am gam-drin. Mae’n rhif 0800, mae ar gael am ddim, ac rwy’n meddwl o ddifrif, fel gwleidyddion, y dylem annog ein hetholwyr i ymgysylltu mwy, o bosibl. Y cyfan rwy’n ei wybod yw ein bod ni fel Aelodau Cynulliad, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, ond gan weithio gyda’r unigolion hyn sydd o ddifrif yn—. Fel y dywedoch yn gynharach, Caroline, gallai fod yn ni ein hunain ac efallai, yn y blynyddoedd a ddaw, mai felly y bydd hi.
Hoffwn innau ddiolch i Caroline Jones hefyd am roi munud yn y ddadl hon i mi. Rwyf wedi siarad am unigrwydd yn y Siambr hon sawl gwaith, ac mae’n fater sy’n fy mhryderu’n fawr iawn. Bwriadaf roi dwy enghraifft yn unig o unigrwydd: yn gyntaf y fenyw a ymwelodd â mi mewn cymhorthfa dair gwaith. Gofynnais iddi ar ôl ei thrydydd ymweliad beth oedd hi am i mi ei wneud i’w helpu. Atebodd hithau, ‘Rwy’n dod i’ch gweld chi am mai chi a’r cynorthwyydd wrth y til yn Somerfield yw fy unig ddau ffrind—yr unig bobl rwy’n siarad â hwy.’ Yr ail yw rhywun a ymwelodd â mi mewn cymhorthfa arall ac a arferai weithio yn y cyfryngau. Roedd ei gŵr wedi marw ac roedd hi wedi symud i ystad newydd o dai, a hi oedd yr unig berson adref drwy’r dydd—da i dderbyn nwyddau, ond golygai nad oedd yn gweld neb drwy’r dydd. Cofiwch, gall pob un ohonom wynebu unigrwydd.
Diolch yn fawr iawn. A galwaf ar y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd y Cyhoedd, Rebecca Evans, i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch yn fawr iawn i Caroline Jones am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ac i bob un o’r siaradwyr am roi cyfle i ni archwilio sut y gallwn fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau yng Nghymru, ac rwy’n cytuno’n llwyr fod hwn yn fater na ellir mynd i’r afael ag ef oni bai ein bod yn gweithio mewn partneriaeth.
Gall unigrwydd ac arwahanrwydd effeithio’n sylweddol ar iechyd a lles corfforol a meddyliol, a dyna pam y mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ymrwymiad penodol i ddatblygu strategaeth drawslywodraethol i ymdrin ag unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym yn cydnabod yr angen i weithio gyda’n gilydd ar draws y Llywodraeth ac rydym hefyd yn cydnabod yr angen i weithio gyda’r cyhoedd a’n partneriaid allanol. Mae hwn yn ddull o weithredu a ddefnyddiwyd gennym yn llwyddiannus eisoes mewn nifer o feysydd, gan gynnwys y gwaith a ddatblygwyd gennym drwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r ymagwedd hon yn ymwneud â’r hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, beth y gall cyrff statudol a’r trydydd sector a’r sector annibynnol ei wneud, ond hefyd, yn bwysig, mae’n ymwneud â’r hyn y gall pobl a chymunedau lleol ei wneud.
Fel y nododd Jane Hutt yn y ddadl flaenorol a gawsom ar y pwnc hwn yn ddiweddar, mae gan ein cymunedau draddodiad hir o fod yn lleoedd lle y bydd pobl yn gwneud eu gorau i helpu ei gilydd. Fodd bynnag, wrth i gymdeithas newid ac wrth i deuluoedd ddod yn fwy gwasgaredig, mae mwy o bobl yn profi unigrwydd ac arwahanrwydd, a chredaf fod yr enghreifftiau a roddodd Mike Hedges wedi dod â hynny’n fyw i ni heno.
Rydym eisoes yn gweithredu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru drwy ystod o raglenni a mentrau. Er bod y rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar bobl hŷn, rydym yn cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn effeithio ar fwy na phobl hŷn yn unig, ac rwy’n ddiolchgar i Janet Finch-Saunders am ein hatgoffa o’r ffaith honno hefyd. O ran y gwaith sydd ar y gweill, mae’n cynnwys rhaglen dair blynedd o rwydweithiau cymunedol dan arweiniad gwirfoddolwyr y cyfeirir atynt fel Cymunedau Tosturiol, ac rydym hefyd yn gwybod am bwysigrwydd cyfeillio. Rydym wedi darparu ystod o gyllid i gefnogi’r agenda hon, ac mae’n cynnwys cymorth i’r rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru, sydd â ffrwd waith benodol yn edrych ar unigrwydd ac arwahanrwydd. Rydym hefyd yn darparu cyllid i nifer o fudiadau trydydd sector i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd yn ein cymunedau. Er enghraifft, mae Diverse Cymru yn cynnal ymgyrch gyda chefnogaeth gan sefydliadau eraill i helpu i frwydro yn erbyn arwahanrwydd cymdeithasol mewn cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol. Mae Sight Cymru yn gweithio ar brosiect i gyflwyno rhaglenni cymorth arbenigol dwyieithog dan arweiniad cleifion, sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â’r arwahanrwydd cymdeithasol a all ddod yn aml wrth i chi golli eich golwg. Mae rhaglen Teithiau’r mudiad Gofal yn anelu i wella ac ehangu’r model cyfredol o grwpiau cymorth gan gymheiriaid sy’n rhoi cyfle i bobl â phroblemau iechyd meddwl i rannu profiadau, meithrin hunan-barch a hyder a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol. Ac rydym hefyd wedi ariannu My Generation Mind Cymru i wella gwytnwch a lles pobl hŷn sydd mewn perygl o ddatblygu salwch meddwl o ganlyniad i arwahanrwydd.
Yn ddiweddar mynychais lansiad Ffrind i Mi yng Nghasnewydd. Mae’r cynllun yn anelu i recriwtio cymaint o wirfoddolwyr o gymunedau lleol ag y bo modd i ddarparu cefnogaeth i bobl eraill, ac wrth wneud hynny mae’n anelu i baru gwirfoddolwyr a phobl sydd â diddordebau a chefndiroedd tebyg, fel cyn-filwyr sy’n cefnogi cyn-filwyr, er enghraifft. Ac rwy’n credu y bydd cyfeillgarwch go iawn yn datblygu drwy’r model hwn, a fydd o fudd i’r unigolyn a’r gwirfoddolwr. Mae hon yn enghraifft dda iawn o’r hyn y gall pobl ei wneud yn lleol, ac mae’n cyd-fynd yn dda â’n model o ddatblygu cymunedau tosturiol. Roedd yn ddiddorol iawn clywed am y prosiect croeso i ymwelydd yn y cartref—nid oeddwn yn gyfarwydd â hwnnw o’r blaen—yng ngorllewin Cymru a Chlwb Bowlwyr Anabl Sir Benfro hefyd. Diolch i Janet Finch-Saunders unwaith eto am dynnu sylw at y gwasanaeth pwysig y gall y Llinell Arian ei gynnig.
Rwy’n meddwl bod y ddadl hon yn rhoi cyfle da iawn i ni gydnabod a diolch i’r holl wirfoddolwyr sy’n barod i roi rhywfaint o’u hamser i gefnogi pobl eraill, gan gynnwys etholwr Joyce Watson, Stephen. Er bod llawer o enghreifftiau o gynlluniau eraill tebyg, gwyddom fod mwy i’w wneud ac rydym yn sylweddoli difrifoldeb unigrwydd ac arwahanrwydd, a’r effaith ar iechyd meddwl a lles pobl. Rwy’n credu bod rhai o’r ffigurau y siaradodd Caroline Jones amdanynt yn gignoeth iawn ar ddechrau’r ddadl hon o ran dangos yr effaith ar iechyd, yn wirioneddol syfrdanol hefyd.
Ers y ddadl flaenorol ar unigrwydd ac arwahanrwydd a gynhaliwyd y mis diwethaf, mae’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi cyhoeddi gwybodaeth am yr ymchwiliad y byddant yn ei gynnal. Byddant yn ystyried: y dystiolaeth ynglŷn ag achosion a maint y broblem; yr effaith ar bobl hŷn ac a yw’n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol, megis pobl â dementia; yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig yr effaith ar iechyd a gofal cymdeithasol; a thystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio a’r ymyriadau sy’n gallu helpu mewn gwirionedd, ac atebion polisi cyfredol a’u costeffeithiolrwydd. Felly, rwy’n edrych ymlaen at ganlyniad yr ymchwiliad hwn, a byddwn yn sicrhau ei fod yn cael ei ystyried yn rhan o’r ffordd y byddwn yn datblygu ein strategaeth ar draws y Llywodraeth i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
Felly, i gloi, hoffwn sicrhau’r Aelodau ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth i wneud popeth yn ein gallu i fynd i’r afael â mater unigrwydd ac arwahanrwydd. Er bod hwn yn fater penodol i bobl hŷn, ac er y byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar y grŵp hwn, byddwn yn manteisio ar y cyfle i sicrhau bod grwpiau eraill o bobl sy’n dioddef unigrwydd ac arwahanrwydd yn cael eu cefnogi hefyd. Mae gan bawb ohonom rôl i’w chwarae a bydd angen i ni weithio mewn partneriaeth os ydym yn mynd i ddarparu cefnogaeth i ffrindiau, aelodau o’r teulu, cymdogion a chydweithwyr a allai fod yn dioddef unigrwydd neu arwahanrwydd.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw.