<p>Achos 24 Amwythig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:20, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gallaf ddweud wrth yr Aelodau hefyd, wrth gwrs, fy mod yn cofio cyfarfod ag un o’r rhai a oedd yn y carchar yn glir iawn, sef Dessie Warren, yn y 1970au, mewn perthynas ag ymgyrchoedd yn ymwneud â’r union faterion hynny. Felly, rwy’n gyfarwydd iawn ac yn effro iawn i’r materion hyn mewn gwirionedd.

Efallai mai’r hyn y gallwn ei wneud yw gofyn i’r Aelod a fuasai’n ysgrifennu ataf o bosibl gyda’i chais am gefnogaeth Llywodraeth Cymru a chyfarfod a byddaf yn sicrhau bod cais o’r fath yn cael ei ystyried yn ofalus gan Lywodraeth Cymru.