<p>Achos 24 Amwythig</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:22, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Roedd gennyf ddiddordeb yng nghwestiwn Hannah ac fe edrychais ar yr achos yr oeddwn wedi rhyw lun o glywed amdano flynyddoedd yn ôl. Rwy’n credu ei fod yn arfer cael ei alw’n 2 Amwythig, yn hytrach na 24, ond rwy’n casglu mai’r un achos ydyw. Pan geisiais ei roi mewn cyd-destun gwleidyddol, y casgliad y deuthum iddo oedd na chyflwynwyd cyfyngiadau undebau llafur llymach ar faterion fel picedwyr gwib tan yn ddiweddarach. Felly, gan nad oedd rheoliadau llym ar bicedu yn 1972, mae’n bosibl fod y Llywodraeth wedi defnyddio deddfau cynllwyn braidd yn gyfrin i erlyn rhai neu bob un o’r 24 o bosibl. Felly, efallai fod yma anghyfiawnder posibl. Yn sicr, dylid caniatáu i’r cyhoedd weld y ffeiliau sy’n ymwneud â’r achos.

Yr unig broblem yr oeddwn am fynd ar ei hôl gyda chi, Gwnsler Cyffredinol, oedd un yn ymwneud ag arian cyhoeddus, oherwydd er ei fod yn amlwg yn fater o bryder i Hannah Blythyn am ei fod yn ymwneud â rhai o’i hetholwyr, ac rwy’n deall hynny’n llwyr, mae’n rhaid i ni gydnabod y gall ffioedd cyfreithiol gynyddu yn y mathau hyn o faterion. Felly, os yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud â hyn, rwy’n gobeithio y gallem gael amcangyfrif ar ryw bwynt o’r ffioedd cyfreithiol tebygol a fuasai’n codi i drethdalwyr Cymru.