<p>Dinasyddion yr UE</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:32, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Buaswn yn cytuno â’r Aelod ei bod yn rhyfeddol ein bod yn dal i gael y ddadl hon mor hir ar ôl y refferendwm. Efallai ei bod yn rhyfeddol fod yr Aelod hefyd yn anghytuno’n llwyr â’r aelod o’i grŵp a ymddangosodd ar ‘Sharp End’, ac a ddywedodd mewn gwirionedd ei bod hi o’r farn, ac mai safbwynt UKIP oedd y dylent gael hawliau ar unwaith, ac na ddylid eu defnyddio fel testunau bargeinio. Rhaid i mi ddweud am ymagwedd yr Aelod ei fod o leiaf yn gyson yn ei allu i fy rhyfeddu â sylwadau annynol nad ydynt yn destun syndod i mi o gwbl.