<p>Dinasyddion yr UE</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 2:33, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, rwy’n gwybod y byddwch yn gwybod am achos fy etholwr sy’n wladolyn Awstraidd a ddaeth i Aberdâr yn 1996 fel cynorthwyydd iaith dramor, cyn astudio ar gyfer TAR, dod yn athrawes a sefydlu ei busnes ei hun, ond oherwydd ei bod wedi penderfynu aros gartref i fagu ei phlant—sy’n wladolion y DU—mae hi bellach yn deall nad yw’n cymhwyso fel preswylydd parhaol. Yn baradocsaidd, pe bai gŵr fy etholwr hefyd yn Awstriad, gallai wneud cais i fod yn breswylydd parhaol fel dibynnydd. Mae hyn yn effeithio ar fy etholwr, ei gŵr a’i phlant. Pa gyngor y gallech ei roi iddynt?