<p>Confensiwn Sewel</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:48, 15 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, yn ogystal â’r Bil diddymu mawr sydd newydd gael sylw gennym, un o’r consesiynau a wnaed gan y Llywodraeth wrth fwrw ymlaen â’r Bil cyfredol ar sbarduno erthygl 50 drwy Dŷ’r Cyffredin oedd pleidlais bellach yn Nhŷ’r Cyffredin ar fanylion terfynol unrhyw gytundeb a wneid gyda gwledydd eraill yr Undeb Ewropeaidd. Yn eich barn chi, a fyddai hwnnw hefyd yn cynnwys confensiwn Sewel a phleidlais yn y Senedd hon?