Part of the debate – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o gael agor y ddadl gyntaf yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn ddeddfwriaeth bwysig sy’n nodi fframwaith statudol ar gyfer atal cam-drin a gwella cymorth i oroeswyr. Ond nid yw pasio deddfwriaeth yn ddigon—mae’n rhaid iddo gael ei roi ar waith yn effeithiol. Felly, penderfynodd ein pwyllgor wneud gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i edrych ar ba mor dda yr oedd hyn yn digwydd mewn perthynas â’r ddeddfwriaeth hon. Yn ystod ein hymchwiliad, cawsom dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a chynhaliwyd ymweliadau i glywed yn uniongyrchol gan oroeswyr. Rydym yn ddiolchgar i bawb am gyfrannu, ond yn arbennig, rydym eisiau dweud ‘diolch’ wrth y goroeswyr a’n hysbrydolodd gyda’u nerth a’u dewrder yn rhannu eu straeon. Er eu mwyn hwy, ac er mwyn yr holl oroeswyr, rhaid i ni gael hyn yn iawn. Ni allwn droi’r cloc yn ôl i atal trais ar ôl iddo ddigwydd. Ni ddylai neb amau ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet i fynd benben â’r mater hwn. Rydym yn croesawu’r ffaith fod pob un o’r argymhellion wedi’u derbyn, naill ai’n llawn neu’n rhannol. Fodd bynnag, mae’r ymateb i’n hargymhellion yn eithaf gwan ar adegau ac weithiau’n brin o fanylion. Gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei ymateb heddiw yn darparu sicrwydd fod y materion a nodwn yn ein hadroddiad yn cael sylw gyda’r lefel o frys sy’n angenrheidiol.
Ddirprwy Lywydd, mae’r pwyllgor yn rhannu pryderon rhanddeiliaid ynglŷn â chyflymder a chysondeb gweithredu. Aeth pum mlynedd heibio ers cyhoeddi’r Papur Gwyn, a bron i ddwy flynedd ers i’r Ddeddf gael ei phasio, ond mae llawer o elfennau allweddol yn dal i fod heb eu rhoi ar waith ac nid ydynt yn mynd i fod ar waith yn fuan iawn. Gyda phob dydd sy’n pasio rydym mewn perygl o golli momentwm a chyfleoedd i newid bywydau. Mae gwasanaethau’n cael eu torri, mae sefydliadau’n ansicr ynglŷn â’u dyfodol. Rydym yn colli amser pan allem fod yn rhoi mesurau ataliol ar waith.
Trof yn awr at rai o’n hargymhellion. Roedd ein hargymhelliad cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi dyddiadau, yn y cynllun cyflawni sydd ar y ffordd, ar gyfer amrywiaeth o eitemau, gan gynnwys canllawiau statudol. Yn llinell gyntaf yr ymateb, dywedodd y Llywodraeth nad oedd unrhyw ganllawiau statudol yn dal heb eu cyflwyno. Fodd bynnag, mewn mannau eraill, mae’r ymateb yn nodi y bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar ganllawiau comisiynu statudol ym mis Gorffennaf eleni. Felly, mae’n ymddangos bod yna ganllawiau statudol sy’n dal heb eu cyflwyno. A allai Ysgrifennydd y Cabinet egluro’r sefyllfa honno: beth sy’n parhau i fod heb ei wneud a phryd y byddant yn cael eu cyhoeddi? Mae’r canllawiau statudol hyn yn bwysig. Dyma yw cerrig sylfaen y ddeddfwriaeth.
Yn argymhelliad 3, roeddem yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r gwaith o gyhoeddi canllawiau statudol ar gomisiynu gwasanaethau. Dywedodd y cynghorydd cenedlaethol wrthym fod y canllawiau comisiynu yn allweddol i ddibenion y Ddeddf, ond ni fydd ymgynghori’n digwydd ar y canllawiau drafft tan fis Gorffennaf. Yn eu hymateb, mae’r Llywodraeth yn cyfeirio at y pecyn cymorth a lansiwyd gan Sefydliad Banc Lloyds a Chymorth i Fenywod Cymru ym mis Awst 2016, ond cafodd hwn ei gynhyrchu’n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ac nid yw’n statudol. Mewn sector lle y mae comisiynu mor hanfodol i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol, mae’n rhwystredig nad yw’r canllawiau hyn yn barod eto.
Mae cysylltiad agos iawn rhwng comisiynu gwasanaethau a chyllid. Yn argymhelliad 5, roeddem yn galw am amserlen i’r bwrdd cynghori gwblhau ei waith ar fodel ariannu cynaliadwy ar gyfer y sector arbenigol. Dywedwyd wrthym fod hon yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn. Mae’r ymateb yn nodi yr adroddir ar gynnydd i Ysgrifennydd y Cabinet yn y grŵp ymgynghorol ym mis Gorffennaf, ond buasai’r pwyllgor yn awyddus i weld yr amserlen y galwyd amdani fel ein bod yn gwybod pryd y bydd y gwaith hwn yn cael ei gwblhau. Roeddem hefyd yn galw am ariannu digonol i ymdopi ag unrhyw alw cynyddol am wasanaethau. Roeddem yn croesawu’r cynnydd yn elfen refeniw y grant gwasanaethau cam-drin domestig, ond byddem yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn ag a fydd y cynnydd o £400,000 yn ateb y cynnydd tebygol yn y galw, o ystyried bod y cyllid yn sefydlog ar gyfer 2017-18.
Yn argymhelliad 8, roeddem yn galw am eglurder, fel mater o frys, ynghylch statws cyfreithiol y cynllun cyflawni sydd i ddod, pan gaiff ei gyhoeddi a sut yr ymgynghorir arno. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ond nid yw’n darparu llawer o wybodaeth yn ei gylch. Dywedir wrthym y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y bwrdd cynghori i ddatblygu’r cynllun yn ystyried y statws cyfreithiol. Dywedir wrthym hefyd y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn penderfynu ar y dyddiad cyhoeddi pan fyddant yn cyfarfod gyntaf ym mis Chwefror 2017—y mis hwn. Os nad yw’n gallu egluro’r statws cyfreithiol ac amlinellu pryd y bydd yn cael ei gyhoeddi heddiw, hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet egluro pryd y bydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud.
Hoffwn symud ymlaen yn awr at ein canfyddiadau’n ymwneud ag addysg. Mae hwn wedi profi’n bwnc dadleuol. Nododd y Papur Gwyn y dylai addysg perthynas iach fod yn orfodol ym mhob ysgol, ond ni chafodd hyn ei gynnwys yn y Bil. Mae’r mater yn parhau i achosi pryder i randdeiliaid fel Barnardos, Cymorth i Fenywod Cymru, Heddlu Gwent a’r cynghorydd cenedlaethol, a oedd eisiau mwy o ymrwymiad ynglŷn â hyn. Rydym yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydymdeimlo â’r safbwyntiau hyn, gan iddo ddweud wrthym ei fod yn cytuno bod ymyrraeth ac addysg gynnar yn allweddol i feithrin perthnasoedd iach, a’i fod yn awyddus i sicrhau cysondeb. Mae’r pwyllgor yn dal i deimlo’n gryf fod yn rhaid cael gofynion i ysgolion addysgu plant am berthnasoedd iach, neu ni fydd modd atal yr agweddau cymdeithasol gwreiddiedig a niweidiol ynglŷn â cham-drin a thrais rhywiol. Ceir cyfle gyda datblygiad y cwricwlwm newydd i gael hyn yn iawn. Mae’n hen bryd i hyn ddigwydd a byddai’n gam pwysig ymlaen. Byddai’n dda cael sicrwydd pellach gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â’r mater hollbwysig hwn.
Mae argymhelliad 11 yn galw ar Lywodraeth Cymru i baratoi rheoliadau penodol sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar sut y maent yn arfer eu swyddogaethau mewn perthynas â’r Ddeddf. Mae’n parhau i fod yn aneglur a fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddechrau adrodd erbyn dechrau blwyddyn academaidd 2017-18. Unwaith eto, bydd yn dda cael eglurder ar hyn heddiw.
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, rwyf am symud ymlaen at rôl y cynghorydd cenedlaethol. Mae hon yn rôl hollbwysig, ond clywsom fod ei heffeithiolrwydd yn cael ei llesteirio o bosibl gan adnoddau cyfyngedig. Swydd ran-amser yw hi gydag un aelod rhan-amser o staff i gynorthwyo. Roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru adolygu capasiti swydd y cynghorydd ac ystyried dyrannu adnoddau pellach. Mae eu hymateb yn datgan ei fod wedi cael ei drafod a’i ystyried, a’u bod wedi cytuno i’w gadw dan arolwg. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad pellach gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â natur y trafodaethau hyn a pha fath o adolygiad sy’n cael ei wneud. Rydym yn gwybod bod cyllidebau’n dynn, ond mae’n bosibl y gallai cynnydd bach mewn adnoddau effeithio’n sylweddol ar y modd y darperir gwasanaethau.
Mae ein hargymhelliad terfynol yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfeirio at y cynghorydd cenedlaethol, ei chyfrifoldebau a’i chynllun gwaith blynyddol yn y cynllun cyflawni ac unrhyw strategaethau cenedlaethol neu leol yn y dyfodol. Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y grŵp gorchwyl a gorffen yn gyfrifol am ddatblygu fframwaith cenedlaethol, ac y byddant yn rhoi gwybod iddynt am yr argymhelliad hwn. Carem ofyn i Lywodraeth Cymru gyflawni rôl fwy rhagweithiol yn hyn, ac i ddarparu cyfeiriad i’r grŵp gorchwyl a gorffen.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am ddweud yn glir fy mod yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r materion hyn, ond mae’r pwyllgor yn pryderu ei bod yn ymddangos bod diffyg brys ar ran Llywodraeth Cymru i roi’r camau angenrheidiol ar waith, fel yr amlinellwyd yn y Ddeddf ei hun. O ystyried pwysigrwydd y ddeddfwriaeth hon, mae’n rhaid cael gweithredu amserol ac effeithiol yn awr i gyd-fynd â’r ymrwymiad.