Part of the debate – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am osod allan pryderon y pwyllgor yn glir iawn. Byddwch wedi sylwi bod nifer fawr o bryderon wedi’u codi gan y pwyllgor. Rwyf am ganolbwyntio ar ddwy agwedd ar adroddiad y pwyllgor cydraddoldeb, a hefyd ar ymateb Llywodraeth Cymru i hynny: rwy’n mynd i edrych ar y cynllun cyflawni a rôl addysg.
Yn argymhelliad 8, fe alwodd ein pwyllgor am eglurder ynglŷn â statws cyfreithiol y cynllun cyflawni, ac am ddyddiadau ar gyfer cyhoeddi’r cynllun cyflawni. Mae hyn am ein bod yn benderfynol bod yn rhaid i’r cynllun cyflawni fod yn un y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, neu bydd ei werth, heb y grym hwnnw, yn lleihau yn sylweddol. Heb ddyddiad cyhoeddi, mae perig o greu anghysondeb wrth i strategaethau lleol gael eu datblygu ac wrth i wasanaethau lleol gael eu comisiynu. Wrth ymateb i’r pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhellion, ond wedyn yn gwrth-ddweud ei hun mewn ffordd. Mae’n dweud y bydd statws cyfreithiol ac amserlen y cyhoeddi yn cael eu hystyried gan y grŵp tasg a gorffen a wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf y mis yma. Nid yw hynny’n swnio fel mater sy’n cael sylw brys imi. Unwaith eto, rydym yn gweld Llywodraeth Cymru lawer iawn yn rhy araf wrth gyflawni. Nid oes dim sôn am ein pryderon am amserlen, anghysonderau, nac a fydd modd gweithredu’r cynllun ar ôl i’r gwasanaethau gael eu comisiynu.
Rwyf hefyd yn bryderus am ddatblygiad addysg perthnasau iach yn ein hysgolion ni. Dyma fesur ataliol allweddol hanfodol er mwyn sicrhau bod ein pobl ifanc ni’n tyfu i fyny i fod yn hyderus am sut i ddelio â sefyllfaoedd o gamdriniaeth, ac i adnabod camdriniaeth yn y man cyntaf. Roedd y Papur Gwyn gwreiddiol ar gyfer y ddeddfwriaeth yn cynnwys addysg fandadol ar berthnasoedd iach, ac mae yna dystiolaeth gadarn iawn dros wneud hyn fel rhan o’r cwricwlwm. Rwy’n derbyn efallai y bydd yn rhan o’r cwricwlwm i’r dyfodol, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi sôn, ond beth am rŵan, a beth am fis Medi nesaf? Rydym ni’n gwybod bod myfyrwyr ifanc iawn yn profi anghydraddoldeb ‘gender’ a stereoteipio yn yr ysgol, sy’n gallu amharu ar ansawdd eu haddysg a’u perthynas â’u cyd-fyfyrwyr. Mae cydnabod perthnasau sydd ddim yn iach yn hanfodol. Mae yna gryn ddadlau wedi bod yn y fan hon am hyn i gyd, ac yn y diwedd, gwnaeth y Llywodraeth gynnwys dyletswyddau newydd i awdurdodau lleol, sef bod angen iddyn nhw adrodd ar sut y byddan nhw’n trin y broblem yn y byd addysg.
Ond, fe glywodd ein pwyllgor ni nad oedd yna unrhyw amserlen ar gyfer cyflwyno’r ddyletswydd yma. Felly, fe wnaethom ni argymell bod Llywodraeth Cymru’n gweithredu’r rheoliadau yn ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth gan awdurdodau lleol ar hybu pwrpas y Ddeddf. Ein hargymhelliad ni oedd bod yr awdurdodau lleol yn dechrau cyflwyno eu hadroddiadau a bod y Llywodraeth yn gofyn iddyn nhw wneud hynny ar gychwyn y flwyddyn academaidd 2017-18, sef Medi nesaf. Yn anffodus, mae’r ymateb yn hollol annigonol. Yr hyn y mae’r Llywodraeth yn ei ddweud ydy efallai bod yna gyfle i gasglu data am yr hyn sy’n digwydd o ran perthnasoedd iach yn ein hysgolion, sydd yn bell o’r hyn yr oedd y pwyllgor yn ei argymell. Hynny yw, mewn rhai ysgolion penodol, efallai bod modd edrych ar beth sy’n digwydd trwy gyfrwng y gwaith y mae Cymorth i Ferched a grwpiau eraill yn ei wneud yn yr ysgolion, ond cyfyng iawn fydd hynny—tameidiog, yn hytrach na’r cysondeb yr ydym ni ei angen.
Mae yna bwynt ehangach yn fan hyn. Mae adroddiad ein pwyllgor ni yn nodi problemau mawr efo cyflawni a chyflymder y cyflawni. Yn wir, arafwch ydy’r ansoddair sydd yn dod i’r meddwl yn fan hyn ynglŷn â’r cyflawni, ac eto mae angen symud ar frys cyn i bobl ddechrau gweld mai Deddf ydy hon mewn gwirionedd sydd heb rym y tu ôl iddi ar gyfer gweithredu er mwyn gweld y gwahaniaeth yr ydym ni angen ei weld.