Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 15 Chwefror 2017.
Gwrandewais yn ofalus ar yr hyn a ddywedodd pobl eraill ac efallai fy mod am wyro ychydig oddi wrth yr hyn y mae rhai o’r bobl eraill wedi’i ddweud. Rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 4 wedi’i dderbyn, argymhelliad sy’n ymwneud â chysoni pecynnau hyfforddi, am ei bod yn gwbl hanfodol nad ydym yn gorlwytho gweision cyhoeddus â gormod o wahanol gyfarwyddiadau. Ac felly mae’n bwysig iawn i’r asesiadau anghenion a’r fframweithiau canlyniadau gael eu hymgorffori gyda’r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, yn ogystal â’r Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Felly, rwy’n credu y bydd hynny’n sicrhau ymarferwyr fod yr elfen hyfforddiant yn mynd i gael ei chyflwyno’n gydlynol, a bod canllawiau’n mynd i fod ar gael hefyd ar ddatblygu strategaethau lleol ar y cyd, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn eu gwneud mewn camau hawdd eu cyflawni. Ond y peth pwysicaf sy’n rhaid inni ei gymryd o hyn yw ei bod yn hollbwysig fod unrhyw un sydd wedi gorfod ymdrin â phobl sy’n dioddef trais domestig, trais rhywiol, i gyd yn gweithredu fel un a’u bod oll yn deall eu swyddogaeth benodol naill ai i’w atal neu’n sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo.
Rwyf am i weddill fy nghyfraniad ganolbwyntio ar yr argymhellion 9 a 10 mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod. Rwy’n deall pam mai’n rhannol yn unig y derbyniodd y Llywodraeth argymhelliad 9 ar addysg orfodol, gan fy mod yn deall yn iawn nad oes pwynt gwneud rhywbeth yn orfodol os nad oes gennych y gallu i’w fonitro. Nodaf y cytundeb i beidio â rhoi unrhyw faich ychwanegol ar ysgolion i gael gwybodaeth ychwanegol at yr hyn yr ydym eisoes yn gofyn iddynt ei wneud. Felly, rwy’n meddwl fy mod yn cael fy nghalonogi gan argymhelliad 10, sef sicrhau bod yr ysgolion arloesi yn ymgorffori’r canllawiau arferion gorau yn y ffordd yr ydym yn cyflwyno’r cwricwlwm newydd a bod Estyn yn mynd i arolygu ysgolion ar sail beth bynnag sydd yn y cwricwlwm newydd hwn. Mae hynny’n gwbl hanfodol i mi. Felly, nid wyf yn credu mai gwrthod argymhelliad 9 yw hyn ond yn hytrach, ei ohirio yn unol â chyflymder y teithio.
Mewn perthynas ag anffurfio organau cenhedlu benywod, mae’n gwbl hanfodol fod ysgolion yn deall y risgiau posibl y gallai eu merched fod yn eu hwynebu, gan ei bod yn debygol mai’r ysgolion yn unig, neu’r gwasanaethau ieuenctid efallai, gwasanaethau ôl-ysgol, sy’n mynd i allu nodi pan fydd ferch mewn perygl, oherwydd, yn anffodus, mae hwn yn arfer sy’n cael ei gyflawni’n bennaf gan aelodau o deuluoedd y merched. Felly, mae’n rhaid bod yna bobl eraill sydd ar gael i ddiogelu’r plentyn.
Mae’r data yn anodd ei ganfod, ond rwy’n meddwl ein bod yn gwybod bod mwy na 2,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gydag organau cenhedlu wedi’u tynnu’n gyfan gwbl neu’n rhannol, yn ôl Dr Mwenya Chimba, sy’n cyd-gadeirio fforwm anffurfio organau cenhedlu benywod yng Nghymru, ac mae tua 1,200 ohonynt yn byw yng Nghaerdydd. Serch hynny, os credwch nad yw hon yn broblem arbennig yn eich etholaeth, fe’ch cyfeiriaf at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, oherwydd mae yna 30 miliwn o ferched mewn perygl cyn eu pen-blwydd yn bymtheg oed ar draws y byd, felly mae gennym i gyd ein rhan i’w chwarae yn cael gwared ar yr arfer erchyll hwn.
Ond i fynd yn ôl at ferched ac ysgolion a’r rôl sydd gan ysgolion i’w chwarae yn y wlad hon, mae’n rhaid i ni sicrhau y gall ysgolion ddarllen yr arwyddion pan fydd merch yn debygol o fod mewn perygl fel y gallant roi’r camau angenrheidiol ar waith i sicrhau y bydd y llys yn diogelu’r plentyn cyn iddi fynd yn rhy hwyr, gan nad oes modd gwrthdroi anffurfiad organau cenhedlu benywod—mae’n ddigwyddiad sy’n para am oes ac yn creithio’n ddwfn.
Yn ffodus, mae’r llysoedd yn barod i weithredu ar hyn, a bellach ceir camau llawer mwy effeithiol i atal merched rhag mynd dramor. Ond yn anffodus, mae hyn wedi arwain at adfywiad newydd yn y lefelau o anffurfio organau cenhedlu benywod sy’n digwydd yn y wlad hon. Cawsom wared arno o Stryd Harley, ond arswydais wrth glywed gan Aelod Cynulliad Llundain, Jenette Arnold, a oedd yma ar Ddiwrnod Brwydro yn erbyn Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod ar 6 Chwefror, fod hyn yn digwydd ym maestrefi Llundain gan ddefnyddio bydwragedd wedi ymddeol neu rai sy’n dal i weithio fel bydwragedd. Dyma bobl sydd wedi cael eu hyfforddi yn y GIG. Felly, mae’n rhaid inni sicrhau bod pawb yn deall y llw Hipocratig a bod anffurfio organau cenhedlu benywod yn rhywbeth sy’n rhaid i ni i gyd frwydro yn ei erbyn.
Mae gwir angen i ni sicrhau bod merched yn cael lle i allu datgelu’r posibilrwydd o’r risg honno, ac mae hynny’n golygu bod yn rhaid inni gael hyfforddiant ysgol gyfan ar hyn i sicrhau nad ydym ond yn targedu un grwp ethnig neu’r llall. Felly, mae’n rhaid iddo fod yn ddigwyddiad ysgol gyfan ac rwyf am sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori’n llawn yn Donaldson gan mai dyna’r unig ffordd y gallwn frwydro yn erbyn yr arfer hwn ymhlith merched—yn ogystal, yn amlwg, â gwaith pwysig y mae angen inni ei wneud yn y cymunedau yr effeithir arnynt.