Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 15 Chwefror 2017.
Hoffwn gofnodi fy ngwerthfawrogiad i Gadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, John Griffiths, am gadeirio ein pwyllgor yn fedrus. Mae fy amser byr yno wedi bod yn ddiddorol. Roedd ein hymchwiliad byr yn yr hydref y llynedd yn waith pwysig i adolygu cynnydd Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy’n ddeddf arloesol a blaengar. Hoffwn ddiolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ran yn gyrru’r gwaith yn ei flaen a’i benderfyniad i wneud iddo lwyddo.
Fel y dywed adroddiad ein pwyllgor, mae’r Ddeddf hon yn cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel deddfwriaeth arloesol. Mae modd gweld gwerth pwyllgorau craffu Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ein hymchwiliad byr ond pwysig. Er mwyn ei chynorthwyo i weithredu’n well a helpu Llywodraeth Cymru i wella ei hymwneud â’r strategaethau cenedlaethol a lleol, y cynlluniau cyflawni a’r ddarpariaeth addysgol, gallwn weithredu fel ffrind beirniadol sy’n gallu cynnig cyngor ac argymhellion. Mae’n dyst i’r gwaith hwn na chafodd yr un o’r 15 o argymhellion eu gwrthod. Cafodd 12 o’r argymhellion eu derbyn yn llawn, a derbyniwyd tri o’r argymhellion yn rhannol. Fel rhywun sydd wedi gwasanaethu mewn llywodraeth leol ers dros ddegawd, rwy’n croesawu’n arbennig y ffaith fod argymhelliad 1 wedi cael ei dderbyn.
Clywsom dystiolaeth gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Bwrdeistref Wrecsam, ymhlith eraill, a fynegodd eu hawydd am ragor o gyfathrebu ystyrlon a chyfeiriad clir gan Lywodraeth Cymru. Caf fy nghalonogi wrth weld Llywodraeth Cymru’n datgan y bydd canllawiau’n cael eu cyhoeddi mewn perthynas â strategaethau lleol ym mis Gorffennaf 2017. Bydd hyn yn sicrhau bod adran 6 o’r Ddeddf yn cael ei chyflawni yn ôl y gofyn.
Pan fyddwn yn pasio deddfau yn y lle hwn, rydym yn eu pasio er mwyn gwneud gwahaniaeth buddiol i fywydau pobl Cymru. Er mwyn sicrhau hyn, mae’n hanfodol fod synergedd rhwng llywodraeth leol ac asiantaethau perthnasol a Llywodraeth Cymru, heb golli dim yn yr ymwneud rhyngddynt. Ysgrifennydd y Cabinet, sut y credwch y gallwn helpu’r bartneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau gwell canlyniadau?
Roedd argymhelliad 10 ein pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol, fel y crybwyllwyd gan eraill heddiw, yn defnyddio’r canllaw arferion da a ddatblygwyd gan Cymorth i Fenywod Cymru ac yn rhoi trefniadau monitro ar waith ar effeithiolrwydd y canllaw hwn. Fel aelodau o’r pwyllgor, cawsom dystiolaeth helaeth a chydsyniol i raddau helaeth ynglŷn â phwysigrwydd, unwaith eto, addysgu plant a phobl ifanc, fel y dywedodd Jenny Rathbone a Joyce Watson, am berthynas iach. Ein cred oedd bod addysg orfodol yn allweddol i atal trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y lle cyntaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn ac yn datgan y bydd yn mynd i’r afael â’r mater wrth symud ymlaen drwy gyfrwng adolygiad thematig Estyn o’r ddarpariaeth bresennol ar berthynas iach sy’n digwydd yn ystod blwyddyn academaidd 2016-17, a bydd hyn yn cwmpasu detholiad o ysgolion.
Roeddwn yn ddiolchgar i’r unigolion a’r sefydliadau a ddaeth i’r Senedd, fel y mae eraill wedi dweud, i roi tystiolaeth ar y mater hollbwysig hwn. Mae’n rhaid i ni barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein bwriadau da, yn drawsbleidiol, yn cael eu hymgorffori’n rhan o realiti bywyd Cymru. Cyflwynodd Heddlu Gwent, yr heddlu yn fy etholaeth, dystiolaeth ysgrifenedig a oedd yn datgan mai nifer cyfyngedig iawn o staff sydd wedi cael unrhyw hyfforddiant drwy’r Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol, ac er fy mod yn sicr y bydd hyn yn cael sylw mewn modd amserol, mae’n taro nodyn o rybudd go iawn i bawb ohonom nad yw pasio deddfau yn golygu bod y gwaith ar ben. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod effaith drawsnewidiol deddfwriaeth yn cael ei theimlo yn ein cymunedau yng Nghymru ac ar draws ein hysgolion, ein sefydliadau addysg bellach a’n sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Nid y llyfr statud yw diwedd y daith o greu cyfraith effeithiol. Diolch.