Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 15 Chwefror 2017.
Mae mis hanes LHDT yn rhoi cyfle i edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd a wnaed yn hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LHDT+. Fel y nododd siaradwyr eraill, mae 2017 yn nodi 60 mlynedd ers cyhoeddi adroddiad Wolfenden, a 50 mlynedd ers pasio Deddf Troseddau rhywiol 1967 yn dad-droseddoli gweithredoedd rhywiol yn breifat rhwng dau ddyn. Ac wrth gofio’r ddau ddigwyddiad, gallwn dystio i bwysigrwydd thema eleni o eiconau a chyfeillion, gan nodi’r rôl a chwaraewyd gan John Wolfenden, Leo Abse a’r Arglwydd Arran. Wrth gwrs, roedd Deddf Troseddau Rhywiol 1967 yn rhan o’r trawsnewid agweddau cymdeithasol a ddigwyddodd yn ystod Llywodraeth gyntaf Wilson, ac rwy’n falch o allu sefyll yma heddiw fel AC Llafur pan fo cymaint o’r datblygiadau ym maes cydraddoldeb LHDT wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i ymyrraeth Llywodraethau Llafur.
Mae record llywodraethau Blair a Brown yn arbennig o drawiadol, gyda llwyddiannau’n cynnwys: oedran cydsynio cyfartal; partneriaethau sifil; hawliau mabwysiadu; gwahardd gwahaniaethu yn y gweithle a mynediad at nwyddau a gwasanaethau; rhoi diwedd ar y gwaharddiad ar bobl LHDT rhag gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chymal 28; hawliau ffrwythlondeb i bobl lesbiaidd; hawliau i bobl drawsrywiol gael eu rhywedd wedi’i gydnabod yn y gyfraith; gweithredu yn erbyn troseddau casineb; ac yn hollbwysig, Deddf Cydraddoldeb 2010.
Rwyf yr un mor falch o’r rôl a chwaraewyd yn symud agenda hawliau LHDT yn ei blaen gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr a’i aelodau yn ne Cymru. Rwy’n siŵr fod llawer ohonom yma wedi gweld y ffilm ‘Pride’—ac os nad ydych, rwy’n eich annog i’w gwylio—sy’n dangos y ffordd ryfeddol y gwnaeth dwy gymuned, a ddieithriwyd ac a ymyleiddiwyd gan Lywodraeth Thatcher, gefnogi ei gilydd. Mae’r olygfa derfynol honno, gyda glowyr o Aberdâr, y ffatri phurnacite ac Aberpennar i gyd yn fy etholaeth fy hun yn ymuno â gorymdaith Gay Pride Llundain, yn cyfleu’r ffordd yr oedd y ddau grŵp wedi dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd.
Rwyf hefyd yn awyddus i sôn heddiw am fy mhrofiadau fel athrawes ysgol uwchradd. Roedd elfen fugeiliol sylweddol i fy rôl, a gallai hyn ar adegau gynnwys ymdrin â myfyrwyr a’u cynorthwyo i ddod i delerau â’u rhywioldeb, ac wynebu’r cyfyng-gyngor a ddylent ddod allan ai peidio yn yr hyn a allai fod yn amgylchedd ysgol anodd a heriol iawn. Gallai heriau ddod gan gyfoedion, gan rieni ac aelodau eraill o’r teulu, ond gall myfyrwyr a phobl ifanc gael trafferth hefyd i dderbyn eu hunaniaeth rywiol eu hunain, heb sôn am wynebu gorfod sicrhau cefnogaeth a derbyniad y bobl o’u cwmpas.
Gwnaeth Stonewall Cymru beth gwaith ychydig flynyddoedd yn ôl yn tynnu sylw at ystadegau pryderus yn ymwneud â digwyddiadau homoffobaidd yr oedd pobl ifanc LHDT wedi’u profi, ac er fy mod yn falch o ddweud nad oeddwn yn dyst i unrhyw fwlio homoffobig yn bersonol yn ystod fy ngyrfa addysgu, mae Stonewall yn cyfeirio hefyd at yr ymdeimlad o arwahanrwydd y gallai pobl ifanc LHDT ei deimlo.
Felly, sut y gallwn fynd i’r afael â hyn? Mae’n bwysig iawn fod ysgolion yn addysgu derbyniad o rywioldeb drwy eu rhaglenni addysg bersonol a chymdeithasol, a chefnogaf yn llwyr yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden yn gynharach am athrawon sydd angen mwy o gymorth a hyfforddiant er mwyn cyflawni’r mathau hynny o wersi yn briodol. Mae hefyd yn bwysig i ysgolion sicrhau bod ganddynt bolisïau gwrth-fwlio llym ar waith, a bod digon o gefnogaeth yn cael ei rhoi i athrawon a staff eraill yr ysgol fel eu bod yn gallu cefnogi pobl ifanc yn ystod yr hyn a all fod yn gyfnod anodd iawn. Efallai hefyd y bydd cyfleoedd yn y gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn awr ar hyfforddi athrawon a Dyfodol Llwyddiannus, ac rwy’n gobeithio y gellir ymchwilio i hynny’n llawn.
Mae hefyd yn bwysig ein bod yn cynnig modelau rôl LHDT cadarnhaol i’n pobl ifanc, ac rwy’n gobeithio na fydd ots gan yr Aelodau dros Delyn, Castell-nedd a Dwyrain Caerfyrddin fy mod yn croesawu eu rôl bwysig yn hyn o beth, er ei bod yn drueni ei bod wedi cymryd 17 mlynedd i’r Cynulliad Cenedlaethol ethol ei ACau LHDT agored cyntaf, a hefyd yn drist ein bod yn dal i lusgo ar ôl Seneddau’r Alban a San Steffan o ran y gynrychiolaeth honno. Gellir gweld modelau rôl LHDT eraill ar draws pob math o yrfa, gyda llawer ohonynt yn cael sylw yn elfen eiconau’r arddangosfa heddiw a llawer ohonynt yn enghreifftiau o’r newid agwedd a welsom yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf.
Mae data o’r astudiaeth o etholiad Cymru 2016 yn dangos bod rhywfaint o elyniaeth annerbyniol yn dal i fodoli tuag at bobl LHDT, ond roedd gan nifer lawer iawn yn fwy o bobl agweddau ffafriol. Roedd gwaith pwysig a wnaed gan gyn-fyfyriwr i mi, Jac Larner, yn awr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yn dangos bod pobl iau yn arddangos agweddau lawer iawn yn fwy ffafriol tuag at bobl LHDT na’u cohortau hŷn. Rhaid bod hyn yn galondid mawr i ni ar gyfer dyfodol ein cenedl, ond fel y dywedodd Ivor Novello, un o’r eiconau a ddethlir heddiw:
Anaml y bydd pethau nad ydynt yn galw am ymdrech o ryw fath yn werth eu cael.
Mae gwella cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu yn galw am ymdrech yn wir, ac maent yn bendant iawn yn werth eu cael.