Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 15 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Mae cael cangen leol hygyrch yn bwysig i bobl hŷn, pobl heb drafnidiaeth neu fynediad at y rhyngrwyd, siopwyr, busnesau bach ac eraill. Yn wahanol i’r ffyliaid a gafodd eu caniatáu i ddryllio ein system fancio, rwy’n fanciwr cymwysedig, a arferai weithio yn y sector cymdeithasau adeiladu, cydfuddiannol, ac sydd wedi ymgyrchu yn erbyn cau canghennau yn y ddau sector.
Wrth siarad yma ym mis Tachwedd 2013 ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau canghennau yn Llangollen, Conwy a Biwmares, tynnais sylw at bryderon a fynegwyd gan etholwyr ynglŷn â’r effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt, ar fusnesau yn eu trefi, ar eu cymunedau, ac ar y miloedd o dwristiaid sy’n ymweld â’u hardal.
Mae’r gangen a serennai mewn hysbyseb deledu NatWest yn addo cadw pob cangen ar agor os mai honno oedd yr olaf yn y gymuned bellach wedi cau. Flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd Barclays gynlluniau i gau eu cangen ym Mwcle, Sir y Fflint, gan symud cyfrifon i’r Wyddgrug, taith gron o chwe milltir. Hwn oedd y trydydd banc mewn chwe mis i gyhoeddi ei fod yn cau yn y dref. Yn dilyn cyhoeddiad HSBC eu bod yn cau cangen yn y Waun a Rhiwabon, nododd cwsmeriaid fod yna giwiau’n aml yn y ddwy gangen a gofyn, ‘Onid yw HSBC yn ystyried effaith ganlyniadol cau ar yr ardaloedd a’r busnesau cyfagos yn ogystal â’r ddwy dref eu hunain?’
Ar ôl i HSBC gyhoeddi eu bod yn cau eu canghennau yn Ewloe a Chaergwrle y llynedd, ysgrifennais atynt a chyfarfod â hwy eto, ac er bod HSBC unwaith eto’n beio cynnydd mewn bancio dros y ffôn a bancio ar y we, pwysleisiais fod pryderon wedi’u lleisio unwaith eto gan etholwyr ynghylch yr effaith y byddai hyn yn ei chael arnynt hwy a’u cymunedau.
Pwysleisiais hefyd, do, y protocol mynediad at fancio a ddaeth i rym ym mis Mai 2015 i helpu i leihau effaith cau canghennau banc ar gwsmeriaid a chymunedau lleol, yn galw am asesiad cyn cau o effaith unrhyw fwriadau i gau ar y gymuned ehangach, gan gynnwys busnesau, amlinelliad o ymgynghoriad a gofynion ymgysylltu â’r gymuned, a sicrhau darpariaeth barhaus o ffyrdd eraill o fancio.
Yn eu hymateb, roeddent yn dweud eu bod wedi glynu at y protocol, yn trafod atebion eraill gyda chwsmeriaid, a bod penderfyniadau i gau wedi dilyn astudiaeth lawn o weithgarwch cwsmeriaid ym mhob cangen, defnydd cynyddol cwsmeriaid o fancio digidol, ac agosrwydd y swyddfa bost agosaf lle y gall eu cwsmeriaid gael mynediad at eu gwasanaethau.
Cefais ymateb tebyg gan NatWest ar ôl iddynt gyhoeddi eu bod yn cau cangen Treffynnon, ymateb a oedd hefyd yn nodi y byddent yn cyflwyno cangen symudol bob dydd Mercher. Yn gynharach y mis hwn, soniais wrth y Prif Weinidog yma am gynlluniau pellach HSBC i gau canghennau yn Nhreffynnon, Caergybi a Llanrwst, a bwriadau Cymdeithas Adeiladu Yorkshire i gau canghennau yn Abergele, Prestatyn a Llangefni. Mae’r ffaith fod hyn hefyd yn effeithio ar gymdeithasau adeiladu cydfuddiannol, fodd bynnag, yn pwysleisio bod hyn yn ymwneud ag ystyriaethau ehangach nag elw preifat.
Mae ein gwelliant 2 yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar y model bancio cymunedol dielw a ddatblygwyd yng Nghymru gan Responsible Finance, gan weithio gydag undebau credyd lle na all undebau credyd wneud hynny, gan godi cyfalaf o fentrau cymdeithasol eraill, busnesau, awdurdodau lleol a chynghorau tref, a darparu cyllid a chymorth i bobl, busnesau, a mentrau cymdeithasol nad ydynt yn gallu cael cyllid gan fanciau’r stryd fawr.
Maent yn gweithio gydag eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cartrefi Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru, i ddatblygu model banc cyhoeddus, ond ar hyn o bryd nid ydynt yn derbyn unrhyw gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Maent yn pryderu y gallai banc datblygu Llywodraeth Cymru gystadlu â hwy yn y pen draw ar gost uwch pan fo achos busnes cryf dros weld Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo gyda chronfeydd cyfyngedig iawn. Maent yn nodi y byddai £100,000 o gyllid Llywodraeth Cymru, er enghraifft, yn galluogi gwerth £3 miliwn o fenthyciadau, ac y gallent ddarparu swyddi am £4,000 a fyddai’n costio £35,000 yr un i fodel Llywodraeth Cymru. Felly, gadewch i ni beidio ag ailddyfeisio’r olwyn: gadewch i ni ddewis y model sydd eisoes yn datblygu yn y trydydd sector yng Nghymru.
Mae ein gwelliant 3 yn croesawu’r ‘Access to Banking Protocol—One Year on Review’ annibynnol gan yr Athro Russel Griggs OBE, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016. Mae ei argymhellion yn cynnwys gwneud asesiadau o effaith cau cangen yn fwy penodol a phersonol i’r ardal ac ymgysylltiad cynnar y banc â chwsmeriaid.
Mae ein gwelliant 4 yn croesawu cytundeb partneriaeth newydd Swyddfa’r Post gyda banciau’r DU sy’n dod â threfniadau presennol Swyddfa’r Post gyda banciau unigol at ei gilydd ar ffurf un set o wasanaethau sydd ar gael i gwsmeriaid bron bob banc yn y DU. Bydd y gwasanaeth hwn sydd wedi’i symleiddio yn caniatáu i gwsmeriaid personol a busnes dynnu arian allan, adneuo arian parod a sieciau, a gwneud ymholiadau balans mewn canghennau o Swyddfa’r Post, ond yn allweddol hefyd bydd yn helpu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr—neu helpu i ddiogelu presenoldeb swyddfeydd post ar y stryd fawr, rhywbeth y mae pobl yma wedi galw amdano’n fynych. Felly, rwy’n eich annog i gefnogi ein gwelliannau, er y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi unrhyw gynnig terfynol y penderfynwn arno er mwyn cyfleu neges gref a chyson.