Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 15 Chwefror 2017.
Mi ddechreuaf i drwy gyfeirio at yr hyn yr oedd Adam yn sôn amdano fe yn ei araith agoriadol, ynglŷn â’r ffaith fod y banciau mwyaf yn dueddol o gau banciau mewn niferoedd anghymesur yn yr ardaloedd tlotaf sydd gennym ni—yr ardaloedd â’r incwm isaf—tra, wrth gwrs, yn agor canghennau yn rhai o’r ardaloedd cyfoethocaf. Mae ymchwil gan Reuters yn dangos bod mwy na 90 y cant o’r banciau a wnaeth gau rhwng Ebrill 2015 ac Ebrill 2016 wedi cau mewn ardaloedd oedd â’r incwm aelwyd ‘median’ o dan gyfartaledd y Deyrnas Unedig, tra, ar yr un pryd, yn yr un cyfnod, roedd pump o’r wyth cangen a agorodd wedi agor yn Llundain, wrth gwrs, yn Chelsea, Canary Wharf, St Paul’s, ac yn y blaen, yn yr ardaloedd cyfoethocaf. Yn wir, mae’r banciau mawr deirgwaith yn fwy tebygol o gau banciau yng Nghymru nag yn ne-ddwyrain Lloegr, os ŷch chi’n edrych ar faint y boblogaeth. Felly, mae’n hwyr bryd inni fod yn edrych ar drefniadau amgen a dulliau i ymateb yn bositif i’r sefyllfa yma. Mae rhywun yn cael yr argraff fod yna rhyw fath o ‘stampede’ ar hyn o bryd ymhlith y banciau i beidio â bod y banc olaf i gau mewn tref yn rhywle, oherwydd eu bod yn gwybod gymaint anoddach fydd hi i wneud hynny yn y pen draw.
Rŷm ni i gyd, wrth gwrs, wedi clywed y banciau yn dweud—mi glywais i am sefyllfa yng Nghorwen gwpwl o flynyddoedd yn ôl—’O, peidiwch â phoeni, fe gewch chi fynd â’ch gwasanaethau i Langollen, ychydig filltiroedd i lawr yr heol.’ Y flwyddyn wedyn, roedd Llangollen wedi’i gau—wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn fwy nag ymwybodol; mae yn ei etholaeth e. Mae Llangollen yn cau, mae sôn am Riwabon a’r Waun, wrth gwrs—erbyn hyn, Wrecsam. Mae’r un peth wedi digwydd ym Metws-y-Coed: cau Betws-y-Coed—’Ewch i Lanrwst’. Mae Llanrwst nawr yn cau, felly mae’n rhaid ichi fynd i Landudno. Mae’r gwasanaethau yn mynd yn bellach ac yn bellach i ffwrdd, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn dderbyniol. Mae’n debyg, ar ôl i HSBC Llanrwst gau—ac nid ydym ni wedi rhoi lan eto, ond pan fydd e’n cau, os yw’r banc yn cael ei ffordd—bydd yna dros 2,000 o filltiroedd sgwâr o fy rhanbarth i yng Ngogledd Cymru heb gangen neu fanc. Y diffeithwch yma roedd Adam Price yn sôn amdano fe o safbwynt gwasanaethau bancio: taith o 50 milltir, yn ei chyfanrwydd, i gael mynediad at wasanaethau banc.
Ac rŷm ni’n gwybod, wrth gwrs, mai pobl hŷn sydd fwyaf dibynnol, yn aml iawn, ar ganghennau. A’r rheini yw’r rhai sydd hefyd yn fwyaf dibynnol, yn amlach na pheidio, ar drafnidiaeth gyhoeddus, sydd yn ei hunan yn creu pob math o drafferthion, a’r rhai, wrth gwrs, sydd lleiaf tebygol o fod yn defnyddio gwasanaethau bancio ar-lein neu dros y ffôn. Ac rŷm ni’n gwybod am ansawdd y gwasanaethau hynny mewn rhai ardaloedd yng Nghymru—ymhlith y gwaethaf ym Mhrydain. Ac rydw i yn teimlo y dylai fod ein bod ni’n gofyn i rai o’r banciau yma, ‘Os ydych chi o ddifrif ynglŷn â mynnu bod pobl nawr yn cael mynediad i’ch gwasanaethau chi ar-lein neu ar ffonau symudol, oni ddylech chi fod yn creu cronfa a chyfrannu i sicrhau bod yr isadeiledd yna yn ei le er mwyn i’ch cwsmeriaid gael mynediad i’ch gwasanaethau chi?’ Mae Cyngor Tref Llanrwst, er enghraifft, wedi galw ar HSBC i ohirio cau’r gangen tan fod pob un o’u cwsmeriaid yn yr ardal honno yn gallu cael mynediad o’u cartrefi i’r we ac i signal ffôn symudol.
Nawr, wrth gwrs, rŷm ni wedi clywed hefyd am yr effaith ar fusnesau bach, ac mae’n effaith sylweddol. Mi gaewyd cangen HSBC yng Ngherrigydrudion—dim banc ar ôl. Rydw i’n gwybod nawr am o leiaf un busnes sy’n gorfod cau am hanner diwrnod er mwyn mynd i’r banc, i fancio’r pres a dod yn ôl, ac yn y blaen, ac mae hynny yn ofid. Nid yw gwasanaethau i fusnesau, wrth gwrs, yn aml ar gael nawr mewn nifer o’r canghennau yma. Os ŷch chi eisiau siarad ag ymgynghorwr busnes yn y gogledd, mae’n rhaid ichi fynd i Landudno neu i Fangor, ac mae’r banciau’n cwyno bod y ‘footfall’ yn disgyn yn y canghennau—wel nid oes rhyfedd pan fydden nhw eu hunain yn canoli rhai o’r gwasanaethau yma.
Ac mae’r canghennau yma, mae’n rhaid inni beidio ag anghofio, yn dal i greu elw. Nid ydyn nhw’n rhedeg ar golled—jest, mae’n amlwg, nad ydyn nhw’n creu digon o elw i nifer o’r banciau yma. Mi glywom ni, wrth gwrs, am effaith cau canghennau ar fenthyg i fanciau hefyd. Ac mae banciau yn fwy na sefydliadau ariannol hefyd, wrth gwrs. Maen nhw’n rhan o isadeiledd cymuned, maen nhw’n gonglfeini ar ein stryd fawr ac maen nhw’n adeiladau eiconig ar y stryd fawr yn aml iawn: adeiladau hanesyddol, hynafol, a phan fo’r rheini’n cael eu gadael yn wag, wel, mae’r stryd fawr yn edrych yn fwy di-raen, ac yn aml iawn maen nhw yn fwy amlwg hefyd fel adeiladau pan fydden nhw’n mynd a’u pen iddyn nhw. Yn rhywle fel Rhuthun, lle mae NatWest wedi cyhoeddi eu bod nhw’n cau, mae NatWest, wrth gwrs, yn adeilad yr hen lys ar sgwâr y dref, yr adeilad mwyaf eiconig yn y dref—adeilad a godwyd yn y bymthegfed ganrif yn y blynyddoedd ar ôl i Owain Glyndŵr losgi’r dref i lawr. Rŷch chi’n dal i weld olion y grocbren a ddefnyddiwyd ddiwethaf yn 1679 yno. Ac felly pa fath o staen fydd hynny ar y stryd fawr yn rhywle fel Rhuthun os ydy’r adeilad yna yn mynd i gyflwr efallai lle mae’n wag ac nad yw’n cael ei ddefnyddio?
Mae yna alwadau wedi bod, wrth gwrs, i greu dyletswydd i drosglwyddo rhai o’r adeiladau pwysig yma i ddefnydd cyhoeddus, efallai am rent isel ac yn y blaen. Mae yna lawer iawn mwy rydw i’n teimlo y gallwn ni fod yn ei wneud. Yr hyn sy’n bwysig yw ei bod i fyny i ni i greu dyfodol amgen pan fo’n dod i fancio. Mi fyddai banc cyhoeddus i Gymru yn sicr yn rhan o’r ateb ond rydw i’n meddwl bod yna lawer mwy y gallwn ni ei wneud i roi pwysau ar y banciau hefyd i fod yn cyfrannu mewn ffyrdd eraill i sicrhau nad yw’r ffaith eu bod nhw’n gadael rhai o’r cymunedau yma yn gadael problemau ar eu hôl.