Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 15 Chwefror 2017.
Hoffwn ddiolch i Hannah Blythyn am ei chwestiynau. Mae Shotton, fel pob safle arall yng Nghymru, yn hanfodol bwysig i deulu dur Cymru, a dyna pam rwy’n falch o allu symud gwaith ymlaen yn awr ar gefnogaeth bosibl i raglen gwariant cyfalaf mawr yng ngwaith dur Shotton. Hoffwn ddweud hefyd fod yr undebau dur yng ngwaith Shotton, ynghyd â chynrychiolwyr undebau dur ar bob un o’r safleoedd eraill yng Nghymru, wedi gweithredu mewn ffordd ganmoladwy ac wedi dangos arweinyddiaeth anhygoel dros yr hyn a fu’n gyfnod hynod o anodd.