Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae grŵp o fuddsoddwyr yn Llundain, Accelerate Me, yn bwriadu creu cronfa newydd gyda £4 miliwn o'u harian eu hunain, gyda chefnogaeth o £6 miliwn o arian Llywodraeth Cymru gobeithio, i gynorthwyo busnes newydd yng Nghymru a chreu fersiwn gartref o raglen gyflymu hynod lwyddiannus Start-up Chile. A yw arweinydd y tŷ yn cytuno y dylai’r math hwn o ddull, sef cefnogi busnesau cynhenid a’u cysylltu gyda chyfalaf a gwybodaeth allanol, fod wrth wraidd strategaeth economaidd newydd Llywodraeth Cymru? Ar y sail honno, a wnaiff hi annog ei chydweithwyr yn y Cabinet i gyfarfod â’r rhai sy’n cynnig y syniad?