Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 28 Chwefror 2017.
Nid wyf yn meddwl bod yr un gair y byddwn i’n anghytuno ag ef, Adam Price, ac rwy’n meddwl y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn falch iawn o gyfarfod â'r buddsoddwyr yn Llundain. Credaf ei bod yn bwysig eich bod chi wedi crybwyll busnesau cynhenid. Rydym ni’n parhau i gefnogi busnesau cynhenid. Mae gennym ni’r nifer fwyaf erioed o fentrau gweithredol â’u pencadlys yng Nghymru. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gan Gymru'r nifer fwyaf o fusnesau newydd ers dros ddegawd. Hyd yma, buddsoddwyd £13 miliwn mewn 1,703 o fusnesau newydd yng Nghymru drwy'r cwmni Benthyciadau Dechrau Busnes. Felly, mae hyn yn galonogol iawn—bod mwy sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru.