<p>Cysylltiadau Rhyngwladol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 1:58, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am hynna. Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r Undeb Ewropeaidd yn rym economaidd, cymdeithasol a gwleidyddol mawr yn y byd, ac mae gadael yr Undeb Ewropeaidd yn fygythiad mawr i statws Cymru a'r DU yn y byd. Felly, a allech chi fy sicrhau, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio gyda’r Undeb Ewropeaidd ac aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd yn y cyfnod sy’n arwain at Brexit a thu hwnt, ac y dylai Llywodraeth y DU ymrwymo, drwy ei thrafodaethau Brexit, i sicrhau cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni Undeb Ewropeaidd allweddol sy’n agored i bobl nad ydynt yn aelod-wladwriaethau, fel Horizon 2020 ac Erasmus+, ac, yn wir, i sicrhau cyfranogiad parhaus mewn rhaglenni datblygu economaidd traws-genedlaethol, yn enwedig gyda'n cymydog agos, Gweriniaeth Iwerddon?