<p>Cysylltiadau Rhyngwladol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:03, 28 Chwefror 2017

Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol Cymru ryngwladol, mae wedi bod yn dda gweld consensws yn datblygu ar draws y pleidiau ynglŷn â'r angen i ddatblygu’r berthynas a datblygu potensial cysylltiadau clos rhwng Cymru a’i diaspora. Yng nghyfarfod diwethaf y grŵp, mi oedd yna gytundeb ar yr angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth glir ar sut i sicrhau hynny, a hynny ar ben y math o gysylltiadau rhyngwladol y mae’r Llywodraeth yn ymwneud â nhw ar hyn o bryd, ac ymweliadau masnach ac yn y blaen. A ydy arweinydd y tŷ yn cytuno efo’r grŵp ar y pwynt yma a pha gamau sy’n cael eu rhoi mewn lle gan y Llywodraeth i sicrhau bod y cyswllt yna efo’r diaspora yn cael ei ddatblygu’n effeithiol?