<p>Cynlluniau Teithio Rhatach</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:10, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Wel, fel y dywedwch chi, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar 21 Chwefror. Amlinellodd ei gynlluniau ar gyfer dyfodol teithio ar fysiau am bris gostyngol i bobl ifanc. Rydym ni wedi cytuno ag awdurdodau lleol a'r diwydiant bysiau y bydd y trefniadau teithio gostyngol presennol yn parhau, fel y dywedais wrth ateb eich cwestiwn cyntaf. Rydym ni wedi derbyn cynnig y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr i wneud cynigion ar gyfer ymgyrch farchnata newydd, gan ein bod ni’n gwybod bod angen i ni gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar basys ac yn eu defnyddio, ond rydym ni’n bwriadu lansio cerdyn teithio newydd o 2018. Byddwn yn ymgynghori dros yr haf.