Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 28 Chwefror 2017.
Rwy’n credu, er bod teithio rhatach yn bwysig iawn, yn enwedig lle mae gwasanaethau bws yn gyfyngedig, wrth gwrs mae'n—. Gall tocynnau teithio rhatach gael eu defnyddio ar reilffyrdd penodol; mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau hynny. Mae teithio rhatach ar y trên ar gael ar rai llwybrau, y byddwch yn ymwybodol ohonynt, yn enwedig yn Wrecsam, Llandudno, Blaenau Ffestiniog, Abertawe a rheilffordd Calon Cymru. Fel y gwyddoch, Gareth Bennett, nid oes gennym unrhyw bwerau i gyflwyno cynlluniau tocynnau rhatach gorfodol ar wasanaethau yng Nghymru, ond rydym ni’n ariannu'r cynllun consesiynol gwirfoddol gyda Threnau Arriva Cymru. Ond, yn amlwg, mae hwn yn faes lle byddwn yn edrych ar ragolygon y dyfodol.