Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Ar 14 Chwefror, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad ar Gymunedau yn Gyntaf ac roedd ei weithredoedd yn y datganiad hwnnw hefyd yn amlygu’r uchelgais i gyrraedd y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur a'u symud ymlaen. Ond, yn anffodus, mae rhai o'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur o ran sgiliau hefyd yn gorfforol bellaf o'r farchnad gan eu bod yn byw mewn cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n dda gan wasanaethau cyhoeddus. Beth ydych chi’n ei wneud mewn gwirionedd i gael swyddi’n nes atyn nhw neu eu cael nhw i swyddi trwy wella gwasanaethau cyhoeddus a thrafnidiaeth gyhoeddus?