Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, wrth gwrs, yn nodi buddsoddiad ar gyfer gwasanaethau seilwaith trafnidiaeth ar draws pob rhan o Gymru. Mae’n rhaid iddo gynnig atebion cynhwysfawr ar gyfer anghenion trafnidiaeth lleol a chymunedau cyswllt, ond, fel y mae’r Aelod, David Rees, yn ei ddweud, mae'n ymwneud â gwella trafnidiaeth gyhoeddus leol, ac rwy'n credu y bydd y ganolfan trafnidiaeth integredig yn eich ardal chi yn arwyddocaol ac yn bwysig iawn. Mae gennym ni hefyd, wrth gwrs, ein menter Swyddi Gwell yn Nes at Adref hynod bwysig, sy'n galluogi pobl i gael mynediad at swyddi, ond byddwch yn clywed mwy gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi a thrafnidiaeth yn fuan iawn o ran dyfodol gwasanaethau bysiau.