<p>Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:18, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9. Yn gynharach yn y Siambr y prynhawn yma, gwnaeth arweinydd UKIP yn y Cynulliad gyhuddiadau am ymddygiad yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda a'r Aelod Seneddol dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn ymwneud â'r ymgyrch dros ddyfodol yr ysgol yn Llangennech. Yn benodol, cyhuddodd Jonathan Edwards o gymryd rhan, a dyfynnaf,

‘mewn ymgyrch gyhoeddus o frawychu un o’r ymgyrchwyr hynny’.

Mae'r rhain yn y sylwadau a allai’n wir gael eu hystyried yn enllibus, efallai, y tu allan i'r Siambr hon. Ar gyfer y cofnod, ni wnaeth yr Aelod Seneddol enwi’r un aelod o'r cyhoedd; nid oedd ei lythyr at Jeremy Corbyn, a gyhoeddwyd ar ei wefan, yn cynnwys enwau unrhyw ymgyrchwyr. A dweud y gwir, cyhoeddwyd enw'r unigolyn gan blaid arall dim ond pan gadarnhawyd ei bod wedi gwahardd aelod. Rwy'n credu y dylai’r sylwadau camarweiniol a ffeithiol anghywir gael eu tynnu'n ôl.