Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch i’r Aelod am y pwynt o drefn. Mae’n gywir, wrth gwrs, bod ein Rheolau Sefydlog ni’n mynnu ein bod ni’n dangos cwrteisi ar bob achlysur yn y Cynulliad yma. A gaf i ofyn i’r holl Aelodau i ystyried bod y cwrteisi hynny’n angenrheidiol, yn arbennig i’n cyd-Aelodau etholedig yma yng Nghymru, yn cynnwys yr Aelodau Seneddol? Nid wyf yn credu bod mwy i ddweud ar y pwynt o drefn yna, dim ond i atgoffa pob Aelod i fod yn gwrtais ar bob achlysur ac i osgoi cyhuddiadau carlamus.