Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w hadrodd i fusnes yr wythnos hon. Bydd y datganiad ar y gwerthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys yn digwydd yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn ac, yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad am ddyfodol gwasanaethau bws lleol. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y’i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd i’w gweld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.