Part of the debate – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 28 Chwefror 2017.
Rwy’n sicr yn croesawu gweithred Cyngor Castell-nedd Port Talbot o gyflwyno'r siarter staff â salwch angheuol hon i’w weithwyr. Yn amlwg, gan ddysgu o hynny, byddem yn dymuno gweld hyn yn cael ei rannu a byddem yn annog sefydliadau eraill y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddilyn esiampl Castell-nedd Port Talbot. Ond rydym ni hefyd, fel Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd yn archwilio sut y gallwn gefnogi awdurdodau cyhoeddus yn well i ddarparu arweiniad cenedlaethol a rhanbarthol drwy fabwysiadu polisïau o'r math hwn, sydd yn cefnogi pobl â salwch angheuol.