Part of the debate – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 28 Chwefror 2017.
Mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gwybod bod angen i ni edrych arno—sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r newid hwn yn y gwasanaeth. Mae angen i ni weld sut y mae'n cael ei gyflawni ledled Cymru. Rydych chi wedi rhoi rhywfaint o dystiolaeth heddiw, ond rwy’n credu y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu rhoi diweddariad ac ymateb, yn enwedig os oes gennych enghreifftiau ar lefel etholaethol y gellir eu dwyn i’n sylw.