3. 3. Datganiad: Gwerthusiad Annibynnol o Fodel Ymateb Clinigol y Gwasanaethau Ambiwlans Brys

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 28 Chwefror 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:26, 28 Chwefror 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o gael rhoi diweddariad i’r Aelodau ar ganlyniad y gwerthusiad annibynnol o fodel ymateb clinigol y gwasanaethau ambiwlans brys.

Bydd yr Aelodau yn gwybod bod y cynllun peilot model ymateb clinigol wedi dechrau ar 1 Hydref 2015. Roedd cytundeb eang nad oedd y model blaenorol wedi ei gefnogi gan dystiolaeth glinigol a’i fod yn gwneud defnydd gwael o’r gwasanaeth ambiwlans brys. Diben y model ymateb clinigol newydd yw gwneud y defnydd gorau o'n gwasanaeth ambiwlans a sicrhau ei fod yn rhoi’r flaenoriaeth i’r rhai sydd â'r angen mwyaf am driniaeth.

Cefais dystiolaeth glinigol eglur o arolwg a wnaed gan Dr Brendan Lloyd, cyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, er mwyn ymgymryd â’r peilot hwn. Cymeradwywyd a chefnogwyd ei gyngor yn glir gan yr holl gyfarwyddwyr meddygol eraill yng Nghymru.

Wrth i mi wneud y penderfyniad i gymeradwyo'r cynllun peilot ar gyfer y model ymateb clinigol newydd, cyfarwyddais gadeirydd y pwyllgor gwasanaethau ambiwlans brys, y byddaf yn cyfeirio ato o hyn allan fel PGAB, i gomisiynu gwerthusiad annibynnol trylwyr. Rwyf bellach wedi cael yr adroddiad gwerthuso hwnnw. Wedi ystyried canfyddiadau’r adroddiad a chyngor gan PGAB, gwasanaeth ambiwlans Cymru a’m swyddogion fy hun, rwyf wedi penderfynu y dylid cymeradwyo gweithrediad sylweddol o’r model newydd ar unwaith.

Yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe, nodais rai o ganfyddiadau allweddol yr adroddiad gwerthuso. Roedd yr adroddiad yn gefnogol i gyflwyniad y model newydd ac yn nodi amrywiaeth o fanteision o'i gyflwyno. Canfu fod y model newydd wedi helpu i ddarparu gwasanaeth sy'n canolbwyntio yn fwy ar ansawdd y gofal y mae cleifion wedi ei dderbyn ac mae wedi gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau ambiwlans. Mae'r model newydd wedi rhoi mwy o amser i drefnwyr galwadau i asesu cleifion yn well a sicrhau eu bod yn derbyn ymateb gan glinigwr a cherbyd o’r math cywir yn y lle cyntaf. Mae wedi caniatáu i wasanaeth ambiwlans Cymru ystyried ffyrdd eraill o ymateb i alwadau, naill ai dros y ffôn, a elwir yn 'gwrando a thrin', neu yn y fan a’r lle, a elwir yn 'gweld a thrin'. Mae nifer y galwadau a ddaeth i ben trwy wrando a thrin wedi cynyddu yn sylweddol ers cychwyn y cynllun peilot. Ym mis Rhagfyr 2016 yn unig, mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gallu osgoi 1,700 o deithiau ambiwlans drwy wrando a thrin. Hon oedd y gyfradd fisol uchaf ers dechrau'r cynllun peilot, ac mae’n gynnydd o 70 y cant o'i gymharu â Hydref 2015. Yn yr un modd, mae cynnydd o 9 y cant wedi bod yn y nifer o achosion a ddaeth i ben ar ôl ymyrraeth wyneb yn wyneb gan barafeddygon yn y fan a'r lle, heb angen am gludo’r claf hwnnw i'r ysbyty. Ym mis Rhagfyr 2016, cafodd dros 3,000 o gleifion eu rhyddhau drwy weld a thrin. Felly, arhosodd y cleifion hynny gartref, a rhyddhawyd adnoddau ambiwlans i'r gymuned heb daith ddiangen i'r ysbyty.

Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi gwella ei desg glinigol ym mis Tachwedd y llynedd er mwyn datrys mwy o alwadau heb i gleifion fynd i'r ysbyty. Mae hefyd yn rhoi gwell cefnogaeth glinigol i staff ambiwlans wrth wneud penderfyniadau ynghylch triniaeth yn y fan a’r lle.

Er bod y canlyniadau hyn yn addawol, mae cyfle, wrth gwrs, i gynyddu cyfraddau gwrando a thrin, a gweld a thrin yng Nghymru wrth i ni barhau i fod yn brin ar y mesurau hyn o’n cymharu â rhannau eraill o'r DU. Rwy'n disgwyl i wasanaeth ambiwlans Cymru a phartneriaid bwrdd iechyd weithio gyda'r prif gomisiynydd gwasanaethau ambiwlans i ddwyn y mater hwn yn ei flaen.

Un o argymhellion yr adroddiad oedd adolygiad cyson o gategorïau galwadau i sicrhau bod profiad a disgwyliadau’r claf yn cael eu hystyried yn rhan o'n dull ni sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae blwyddyn o weithredu erbyn hyn yn golygu bod gwybodaeth sicrach ac amser real gan PGAB i gyflawni’r gwaith hwn ar y cyd â gwasanaeth ambiwlans Cymru i gefnogi gwelliannau i gleifion. Rwy'n gwybod bod data cywir a hygyrch yn hanfodol i ddeall galw, ac mae angen clir i wella data drwy gydol taith y claf. Felly, cyflwynodd y model newydd gyfres newydd o ddangosyddion ansawdd ambiwlans. Mae'r rhain yn rhoi darlun llawer ehangach o ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu gan glinigwyr ambiwlans. Rwyf wedi cael fy nghalonogi’n arbennig gan lefelau uchel o berfformiad gyferbyn â’r saith o ddangosyddion clinigol a fesurir. Mae hyn yn dangos bod parafeddygon yn rhoi gofal a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ganlyniadau cleifion. Mae PGAB yn gweithio ar hyn o bryd gyda'r Picker Institute Europe byd-enwog i wella’r mesurau sy'n ymwneud â phrofiad y claf. Ac mae gwaith ar y gweill yn barod i sefydlu cysylltiad rheolaidd y data drwy gydol taith y claf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i ddadansoddi effaith yr ymyriadau ar ganlyniadau i gleifion ar bob cam o’n gofal.

Gyda'i gilydd, bydd y gwaith hwn yn helpu Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a PGAB i ddeall gwasanaethau ambiwlans brys yn fanylach byth ac i roi ymyriadau yng nghyd-destun ehangach taith y claf drwy'r system gofal heb ei drefnu. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cyfarwyddo adnewyddiad y Dangosyddion Ansawdd Ambiwlans yn ddiweddarach eleni i gynnwys mesurau ychwanegol o berfformiad clinigol a gweithredol.

Bydd ailosod y system gyfredol o anfon trwy gymorth cyfrifiadur yn ddiweddarach eleni yn rhoi Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru mewn sefyllfa llawer gwell i reoli pob galwad yn fwy effeithiol trwy well adnabyddiaeth a dyraniad o’r adnoddau mwyaf priodol. Bydd y system newydd yn cael ei chefnogi gan £4.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a disgwylir iddi fod ar-lein yn ddiweddarach eleni.

Mae ein cynllun peilot ni wedi ennyn diddordeb byd-eang. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi derbyn gwahoddiad i roi cyngor i nifer o wasanaethau ambiwlans tramor, gan gynnwys Canada, Seland Newydd, Awstralia, UDA, Chile a Lloegr. Yn wir, mae ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans yr Alban ar hyn o bryd yn treialu model tebyg iawn, gan gyfeirio yn uniongyrchol at y gwaith a wneir yma yng Nghymru. Mae cyfle sylweddol yn y fan hon i adeiladu ar lwyddiant y model hyd yn hyn i dystiolaethu ymhellach i’r arloesi llwyddiannus a’r cam ymlaen a wneir yma.

Rwy’n cydnabod ei bod yn cymryd amser i sefydlu ffyrdd newydd o weithio. Mae'r model clinigol wedi profi ei fod yn effeithiol wrth alluogi gwasanaeth ambiwlans Cymru i roi’r flaenoriaeth i ymateb i angen dirfawr. Er hynny, nid yw'r model ynddo ei hun yn foddion at bob clwyf. Mae gwasanaeth ambiwlans Cymru a PGAB yn cydnabod yn glir bod lle eto i wella gofal y cleifion sydd â'r angen mwyaf, a sicrhau bod cleifion sydd ag angen llai difrifol yn parhau i gael ymateb diogel a phrydlon. Rwyf, felly, wedi ysgrifennu at Athro Siobhan McClelland, yn rhoi cyfarwyddyd i PGAB ddatblygu ffordd ymlaen mewn ymateb i argymhellion yr adroddiad gwerthuso ar gyfer cefnogi’r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo er mwyn darparu gwasanaethau ambiwlans o safon uchel i bobl Cymru.

Mae'r model newydd wedi dangos ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen. Serch hynny, dim ond oherwydd ymrwymiad a sgiliau’r staff sy'n cyflwyno'r gwasanaeth ambiwlans y mae hynny wedi bod yn bosibl, ac rwy’n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw, o ran dadlau’r achos am newid a chyflawni'r newid hwnnw wedyn. Byddaf, wrth gwrs, yn parhau i arolygu perfformiad a gweithrediad y model newydd.