Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 28 Chwefror 2017.
[Yn parhau.]—ac y bu’n ddigon dewr i wneud y penderfyniad i symud tuag at fodel ymateb dan arweiniad clinigol.
Fy nghwestiwn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet— [Chwerthin.]—yw a ydych chi’n cytuno â mi mai’r hyn y mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw ato yw pwysigrwydd sicrhau ein bod yn gwrando ar lais staff rheng flaen wrth lunio polisi, ac mae'n enghraifft wych o fanteision y dull partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru ac undebau llafur y sector cyhoeddus?