Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Pan ddes i’n Ysgrifennydd addysg, roeddwn i’n glir bod angen i ni godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder cenedlaethol. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i’r nodau hyn ac rydym ni’n gwneud cynnydd. Caiff hynny ei atgyfnerthu gan yr amser yr wyf wedi’i neilltuo yn ystod y misoedd diwethaf i werthfawrogi yn well yr hyn sy'n digwydd ledled y wlad drwy wrando ar y proffesiwn, cwrdd ag arweinwyr ein hysgolion a siarad â disgyblion a rhieni.
Mae ein diwygiadau hefyd yn cael eu llywio gan dystiolaeth ryngwladol ac arfer gorau. I fod y gorau, mae'n rhaid i ni ddysgu gan y gorau, a dyna pam y gwnes i wahodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sefydliad uchel ei barch ar draws y byd, i ddarparu asesiad annibynnol o'n sefyllfa wrth fynd ati i ddiwygio. Mae'r adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn gyfraniad hynod ddefnyddiol at ein trafodaethau yma yng Nghymru. Mae'n nodi ble y mae Cymru wedi gweithredu ar argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o 2014 a ble yr ydym wedi gweld llwyddiannau, ac mae’n nodi meysydd lle y ceir heriau o hyd.
Fel cerdyn adroddiad ar gyfer addysg, rwy’n credu y gallaf grynhoi'r adborth drwy ddweud, 'Gwnaed cynnydd da, ar y llwybr cywir, ond mae digon o le i wella o hyd.' Canfyddiad allweddol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yw bod ein dull o wella ysgolion wedi symud o gyfeiriadedd polisi tameidiog a thymor byr i un a gaiff ei arwain gan weledigaeth hirdymor a nodweddir gan broses o gydlunio â rhanddeiliaid allweddol.
Croesewir hyn ac mae’n dangos y cynnydd yr ydym yn ei wneud. Pan allwn ni ddangos llwyddiant, dylai fod yn fater o gydnabod egni ac ymdrechion ar y cyd, yn y man hwn gyda Gweinidogion blaenorol, a gwaith gwerthfawr y pwyllgorau addysg blaenorol yn y Cynulliad a gwaith craffu Aelodau'r Cynulliad, ond yn bwysicaf oll yn ein hysgolion ac ar eu traws.
Fodd bynnag, fel y dywed y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae ein perfformiad wedi bod yn gymysg ac rydym ni wedi gweld cenhedloedd bach, arloesol eraill yn achub y blaen arnom, ond mae hynny’n fy argyhoeddi nad oes unrhyw reswm pam na allwn ni symud ymlaen ar ein taith ddiwygio, gan ddefnyddio ein maint fel mantais i sicrhau cydlyniad, hyder ac ymrwymiad gwirioneddol genedlaethol i ddiwygio. Rwyf i, felly, yn falch bod yr adroddiad yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy'n cael ei wneud, gan nodi’r rhan ganolog y mae ysgolion arloesi yn ei chwarae a hefyd y cynnydd da o ran datblygu’r fframwaith cymhwysedd digidol.
Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi nodi ei fod o’r farn bod y proffesiwn wedi symud o ormod o ddiwygio i weledigaeth hirdymor a rennir ac ymdeimlad cryf o barodrwydd. Rwy’n rhannu’r optimistiaeth honno, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wedi ei gweld drosof fy hun yn yr ysgolion rwy’n ymweld â nhw, gan gynnwys un yn eich etholaeth chi eich hun. Wedi dweud hynny, ni allaf i, ni allwn ni, ni all y system ac ni wnawn orffwys ar ein bri. Mae'r sgoriau PISA siomedig yn dangos i ni fod llawer i’w wneud o hyd. Mae’n rhaid i bawb yn ein system ddeall bod PISA yn ein galluogi ni i gymharu ein hunain â’r byd. Ac ni fu hynny erioed yn bwysicach nag yw yn awr ac ar gyfer y blynyddoedd ansicr sydd o'n blaenau.
Mae'n rhaid i ni barhau i ddatblygu proffesiwn addysgu o ansawdd uchel a dyna'r neges gref gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae wedi cymeradwyo ein dull o ddiwygio addysg gychwynnol ar gyfer athrawon a’n pwyslais ar ddysgu proffesiynol ar bob cam o’u gyrfa. Ond y mae wedi ein hannog i gyflymu'r broses o ddatblygu ein safonau arweinyddiaeth ac rwyf i’n cytuno. Yn hanesyddol, nid ydym ni wedi rhoi digon o werth ar yr agwedd hollbwysig hon ar godi safonau yn ein hysgolion. Ers ymgymryd â'r swydd, mae wedi bod yn amlwg i mi fod arweinyddiaeth yn faes sy'n mynnu gwaith datblygu sylweddol a brys. Ers i’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ymweld ym mis Tachwedd, mae’r gwaith ar arweinyddiaeth yn datblygu trwy sefydlu’r academi genedlaethol arweinyddiaeth addysgol a gallaf sicrhau’r Siambr hon, y proffesiwn a'r rhieni, y bydd datblygu arweinyddiaeth yn rhan allweddol o’n strategaeth addysg. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen arweinwyr cryf ar Gymru sy'n barod am yr her.
Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd hefyd yn ein hannog i barhau â'r broses o gydlunio polisïau â rhanddeiliaid allweddol ac rwyf wedi fy narbwyllo mai hwn yw’r dull cywir. Yn y pen draw, bydd nodau ac uchelgeisiau a rennir yn sicrhau y bydd llawer o’r gwaith diwygio yn cael ei gyflawni. Neges gref yw bod angen i ni gyfathrebu ein diwygiadau yn glir. Mae annog cydlyniad ar draws ein mentrau a'n polisïau yn thema gyffredin drwy’r adroddiad. Ac rwy’n cytuno y gallwn ni fod yn fwy craff ac yn gliriach o ran y ffordd yr ydym yn dangos sut y mae gwahanol bolisïau yn cysylltu â'i gilydd ac yn cyfrannu at ddatblygu ein dysgwyr yn y modd yr ydym ni eisiau.
Gall diwygio ein system addysg, yn wir, gall diwygio unrhyw system, fod yn gymhleth ond mae'n rhaid i ni hefyd elwa ar symlrwydd gweithredu’n effeithiol: gwell dysgu proffesiynol, hyfforddiant diwygiedig ar gyfer athrawon, asesiadau newydd, disgwyliadau arweinyddiaeth uchel a mwy o weithio rhwng un ysgol i’r llall. Ein gwaith ni yn awr yw parhau â'n cenhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg, codi safonau a helpu pob dysgwr yng Nghymru, beth bynnag fo'u cefndir, i gyflawni eu potensial. Byddaf i’n parhau i weithredu yn gyflymach pan fo angen, a byddaf, wrth gwrs, yn ystyried cyngor ac argymhellion y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn fanylach dros y misoedd nesaf. Lywydd, y bore yma, siaradais i ac Andreas Schleicher mewn cynhadledd a oedd cynnwys bron pob un pennaeth uwchradd yng Nghymru, ac rwy’n gwybod, yn y gynhadledd honno, ac mewn ystafelloedd dosbarth ledled ein gwald, fod gennym y dewrder a'r hyder i gyflawni ar gyfer ein holl ddysgwyr ac i gryfhau ein dyfodol fel economi a chymdeithas. Diolch.