Part of the debate – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 28 Chwefror 2017.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma ac, yn wir, am y copi ymlaen llaw o adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddoe, y cafodd ei rannu â phob un o'r pleidiau gwleidyddol, rwy’n credu? Rwyf o’r farn mai’r hyn sy'n glir iawn, ar ôl darllen yr adroddiad, yw nad oedd popeth cystal â’r darlun a roddwyd ym mis Rhagfyr, pan ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet at Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awgrymu bod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd rywsut yn amddiffyn ei safbwynt polisi, gan ei bod yn glir iawn fod yna ymdeimlad o déjà vu yn yr adroddiad, i bob pwrpas, oherwydd ei fod yn dweud rhai pethau sy'n gyson â'r hyn a oedd yn cael ei ddweud gan gôr o leisiau, gan gynnwys y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn 2014, ynghylch diffyg arweinyddiaeth glir, yr angen i godi statws y proffesiwn, yr angen i fuddsoddi mwy mewn ansawdd datblygiad proffesiynol parhaus a mynediad ato, er enghraifft. Rwy’n credu ei bod hi’n destun pryder mawr mewn gwirionedd ein bod yn clywed y negeseuon hyn eto flynyddoedd lawer ar ôl iddynt gael eu hailadrodd mewn adroddiadau eraill.
Wedi dweud hynny, rwy’n credu bod rhai pethau cadarnhaol iawn hefyd y gellir eu dysgu o'r adroddiad ac rydych chi wedi crybwyll rhai ohonyn nhw yn eich datganiad. Roedd rhai o’r pwyntiau na wnaethoch eu crybwyll, wrth gwrs, yn ymwneud â fformiwla ariannu genedlaethol, sef rhywbeth y mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi dweud y gellid ei datblygu o bosibl. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn gwybod bod amrywio sylweddol o un awdurdod lleol i’r llall o ran y swm y pen sy'n cael ei wario ar addysg a disgyblion. Mae hynny'n rhywbeth na ellir ei gyfiawnhau o ran y buddsoddiad y mae angen i ni ei wneud yn ein plant a’n pobl ifanc, a byddwn i’n gofyn yn benodol i Ysgrifennydd y Cabinet beth yw ei hasesiad cychwynnol o'r argymhelliad penodol hwnnw o ran yr angen am fformiwla ariannu genedlaethol.
Rwy’n credu hefyd fy mod i’n dymuno cofnodi croeso cynnes iawn i'r awgrym bod angen i ni gysylltu tystiolaeth â pholisi. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod wedi mynegi pryder ynghylch y diffyg tystiolaeth sydd ar gael ar gyfer amcan Ysgrifennydd y Cabinet i ostwng maint dosbarthiadau’r blynyddoedd cynnar i 25, o ystyried y degau o filiynau o bunnoedd y gellid eu buddsoddi mewn mannau eraill yn y system addysg i gael gwell gwerth am ein harian. A tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddwch chi’n ailystyried ar eich safbwynt ar faint dosbarthiadau o ganlyniad i'r sylw yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod angen cysylltiad clir arnom rhwng tystiolaeth a pholisi addysg. A wnewch chi ddweud wrthym hefyd sut y gallai’r argymhelliad penodol hwnnw helpu i lywio adolygiad Reid o ymchwil addysg uwch sydd ar y gweill ar hyn o bryd? Oherwydd nid oes dim amheuaeth y gall ein sefydliadau addysg uwch chwarae rhan wrth ddatblygu argymhellion polisi sy'n gysylltiedig â'r ymchwil y maen nhw’n ei wneud i’w gyflwyno i’r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru.
Rwyf i hefyd yn dymuno cofnodi’r ffaith ein bod yn croesawu cynnig y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i leihau'r baich gweinyddol ar arweinwyr ysgolion, er mwyn rhyddhau amser iddyn nhw ganolbwyntio ar godi safonau yn y proffesiwn addysgu a chefnogi eu cydweithwyr. Gwyddom y gall hyn darfu yn sylweddol—y dyletswyddau gweinyddol y mae llawer o benaethiaid yn eu hwynebu—ac rwy’n credu ei fod yn argymhelliad ac yn awgrym cadarnhaol iawn fod angen buddsoddi mewn rhagor o reolwyr busnes ar draws y system addysg yng Nghymru. Ond tybed, Ysgrifennydd y Cabinet, ba ystyriaeth yr ydych chi wedi'i rhoi i ba mor gyraeddadwy y gallai hynny fod, o ystyried y ffaith bod gennym lawer o ysgolion bach yng Nghymru, ac a ydych chi’n credu y gallai’r consortia addysg rhanbarthol neu, yn wir, y trefniadau cydweithredol rhwng ysgolion llai, fod yn ffordd ymlaen o ran rhoi’r cyfle i fuddsoddi mewn rheoli busnes, fel y gall penaethiaid ganolbwyntio ar eu harweinyddiaeth addysgol.
Un o'r pethau sy’n destun pryder yn yr adroddiad yw’r ffaith y canfu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod yna ddiffyg cyfathrebu clir gyda'r sector a gyda rhanddeiliaid allweddol ynghylch sut y bydd y daith addysg yn mynd rhagddi. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod o’r dystiolaeth y mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ei chael gan bobl yn y proffesiwn, a gan randdeiliaid eraill, ei bod yn ymddangos y bu rhywfaint o amwysedd o ran sut y bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei lunio, ac a yw'r cart yn cael ei roi o flaen y ceffyl o ran peidio â deall yn iawn sut y bydd y fframwaith asesu yn edrych yn y dyfodol. A tybed sut y byddech yn ymateb i'r honiad gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd nad oes gennym naratif clir am y daith, a sut yr ydych chi’n rhagweld y byddwch yn gallu amlygu rhai o’r uchelgeisiau a’r nodau a rennir.