Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 28 Chwefror 2017.
Diolch i Nick Ramsay am y cwestiynau hynny. I ddechrau gyda’i bwynt cyntaf, rwyf wedi lleisio fy marn i’r Pwyllgor Cyllid, sawl gwaith rwy’n credu, bod hierarchaeth o ran sut y defnyddir cyfalaf. Fy uchelgais cyntaf bob amser fydd defnyddio pa bynnag gyfalaf confensiynol a ddyrennir i ni. Pan fyddwn wedi defnyddio’r holl gyfalaf confensiynol, yna byddem yn ceisio defnyddio ein pwerau benthyca, ond gwyddom, hyd yn oed pan fyddwn wedi gwneud hynny i gyd, y bydd dibenion cyhoeddus pwysig y mae angen i ni i ariannu yng Nghymru o hyd. O dan y modelau a ddatblygwyd gan fy rhagflaenydd, Jane Hutt, rydym wedi cefnogi gwariant cyfalaf gan gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol drwy ddefnyddio refeniw gan Lywodraeth Cymru. Mae model cydfuddiannol yn datblygu hynny gam ymhellach.
Mae Nick Ramsay yn hollol gywir i dynnu sylw at y pryderon sydd ynghlwm i’n cyfranogiad ym Manc Buddsoddi Ewrop o ganlyniad i Brexit. Codais hyn yn uniongyrchol â Changhellor y Trysorlys yng nghyfarfod diwethaf y Cydbwyllgor Gweinidogion ar drafodaethau Ewropeaidd, lle y pwysleisiais iddo farn Llywodraeth Cymru y dylem ni ystyried parhau i fod yn bartner tanysgrifiedig o Fanc Buddsoddi Ewrop hyd yn oed ar ôl Brexit. Yn sicr ceir amrywiaeth o brosiectau, yn ychwanegol at y rhai a amlygwyd yn y datganiad, ond yn sicr yn cynnwys Felindre, lle byddem yn gobeithio darbwyllo Banc Buddsoddi Ewrop i barhau i ddarparu ar gyfer prosiectau yma yng Nghymru.
Y ddau fater penodol a godwyd gan Nick Ramsay—y mater o gyfarwyddwr budd y cyhoedd a'r cap ar elw—yn ôl yr hyn a ddeallaf, oedd yr union ddau reswm canolog pam, mewn cyfres o benderfyniadau cyfrifyddu rhwng mis Gorffennaf 2015 a mis Hydref y llynedd, y dyfarnodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod eu model wedi methu â chydymffurfio â system gyfrifon Ewrop, ac felly yr oedd yn rhaid ei ddosbarthu drwy lyfrau’r sector cyhoeddus yn hytrach na’r sector preifat.
O ran y cap ar elw, daeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'r casgliad bod cap ar elw yn newid y cydbwysedd rhwng risg a gwobrwyo mewn ffordd sy'n anghydnaws â dosbarthiad sector preifat, a bod cael cyfarwyddwr budd y cyhoedd sy'n gallu arfer yr hawl i roi feto ar unrhyw benderfyniad gan gwmni’r prosiect yn gyfystyr â rhywfaint o reolaeth gan y wladwriaeth sy’n anghydnaws â dosbarthiad sector preifat.
Oherwydd ein hymwybyddiaeth o hynny—a dylwn ddweud ein bod ni wedi cael cydweithrediad ardderchog gan Lywodraeth yr Alban a’r Scottish Futures Trust i’n helpu i ddeall y dadleuon y bu’n rhaid iddyn nhw eu gwneud a'n helpu i osgoi rhai o'r anawsterau y maen nhw wedi eu cael. Dyna pam yr aethom at Fanc Buddsoddi Ewrop dros yr haf i gael cyngor arbenigol ar ein model arfaethedig. Fe’i hailstrwythurwyd yng ngoleuni rhywfaint o'r cyngor hwnnw, ac fe’i cyflwynwyd yn uniongyrchol i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol dros yr hydref fel y gallem gael penderfyniad ar ddosbarthiad mewn egwyddor ganddyn nhw.
Bu’n rhaid i ni wneud dau fath o gyfaddawd er mwyn cyd-fynd â’r model dosbarthu. Ni fydd gan ein cyfarwyddwr budd y cyhoedd rym feto, ond os byddwn yn cymryd cyfran ecwiti rhwng 15 a 20 y cant yn y cwmni, cwmni’r prosiect, yna bydd y cyfarwyddwr budd y cyhoedd hwnnw yn etifeddu cyfres o bwerau y bydd yn gallu eu harfer ar ran y cyhoedd ar y bwrdd hwnnw. Nawr, rwy’n disgwyl y byddwn ni’n dymuno penodi cyfarwyddwr budd y cyhoedd ar gyfer y cynllun Felindre o leiaf, yn ystod cyfnod y Cynulliad hwn, a byddaf yn awyddus i roi rhywfaint o ystyriaeth i'r ffordd orau y gellir gwneud hynny. Nid oes dim amheuaeth, y bydd hyn yn cael ei drafod, rwy'n siŵr, yn y Pwyllgor Cyllid yn y dyfodol.
Mae ein model yn golygu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn cael cyfran o’r elw, er na allwn gapio elw. Trwy gymryd cyfran ecwiti o 20 y cant, er enghraifft, yng nghynllun Felindre, dros y 25 mlynedd y bydd disgwyl i’r cynllun gael ei weithredu, byddwn yn derbyn cyfran o 20 y cant o unrhyw elw a geir, o flwyddyn i flwyddyn, gan ddychwelyd i bwrs y wlad fel adenillion ar ein buddsoddiad. Rwy'n credu bod sicrhau’r ddau beth hynny yn golygu y gellir argymell ein model cydfuddiannol i'r Cynulliad.
Gan ein bod ni wedi mynd at y Swyddfa Ystadegau Gwladol ymlaen llaw, gwyddom mewn egwyddor fod ein cynllun yn bodloni eu meini prawf dosbarthiad. Byddant, er hynny, eisiau ystyried pob cynllun yn ei fanylder ei hun i wneud yn siŵr y gallant gymhwyso’r rheolau dosbarthiad hynny, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru fydd parhau i weithio i wneud yn siŵr nad ydym yn wynebu rhai o'r anawsterau a wynebwyd yn yr Alban.