Part of the debate – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 1 Mawrth 2017.
Gwnaf. Siaradais y bore yma gydag is-lywydd Ford, a gadarnhaodd nad oes unrhyw berygl i gyflogaeth yn ffatri Pen-y-bont ar Ogwr yn y tymor byr, ac y bydd niferoedd cyflogaeth yn aros yr un fath, fwy neu lai, hyd at 2021. Fodd bynnag, pwysleisiais eto ein bod yn barod i wneud popeth yn ein gallu i gynorthwyo’r ffatri i ddod yn fwy cynhyrchiol, ac yn hollbwysig, i sicrhau cynhyrchion newydd ar gyfer y ffatri, o 2021 ymlaen.