Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 1 Mawrth 2017.
Unwaith eto, hoffwn ddiolch i’r Aelod am ei ddiddordeb brwd yn y maes hwn. Siaradais gyda Chasnewydd a Chaerdydd i gasglu’r arferion gorau ganddynt, gyda’r bwriad o’u rhannu gydag Abertawe ac awdurdodau lleol eraill. Crëwyd nifer o ffrydiau gwaith o ganlyniad i’r uwchgynhadledd ar fysiau yn Wrecsam, ac mae un yn edrych ar sut y gallwn greu rhwydwaith mwy cynaliadwy a sicrhau bod y gefnogaeth gywir yn cael ei rhoi i awdurdodau lleol, ac yn wir, i’r gweithredwyr, er mwyn eu diogelu’n well ar gyfer y dyfodol. Rydym yn edrych hefyd ar botensial masnachfraint yn ogystal â’r posibilrwydd o greu mwy o wasanaethau trefol ledled Cymru. Mae hwn yn faes gwaith y teimlaf yn arbennig o gyffrous yn ei gylch a chredaf fod gennym gyfle gwerthfawr i greu rhwydwaith bysiau llawer gwell i Gymru.