<p>Datblygu Gwasanaethau Bysiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:59, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, credaf fod rhywfaint o bryder mewn rhannau o’r diwydiant bysiau mewn perthynas â’r posibilrwydd o gyflwyno rheoleiddio o’r brig i lawr yn sgil datganoli sawl darn o ddeddfwriaeth i Gymru. A wnewch chi roi trosolwg cyffredinol o sut y bydd y diwydiant bysiau’n cael ei reoleiddio yn y dyfodol yn eich barn chi a rhoi sicrwydd hefyd na fydd unrhyw reoliadau newydd ond yn cael eu cyflwyno ar ôl ymgynghori ac mewn partneriaeth â’r gweithredwyr, cynrychiolwyr y diwydiant, ac yn wir, yr awdurdodau lleol?