<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 2:10, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa fath o drafodaethau a gawsoch gyda’r ysgrifennydd Cyllid ynglŷn ag a ellid—ac mae ‘a ellid’ yn gwestiwn dilys hefyd—a sut y gellid defnyddio pwerau amrywio treth incwm i annog y sector preifat—y math o sector preifat sydd gennym—i fuddsoddi yn y celfyddydau a threftadaeth.