2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Mawrth 2017.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fe wnaethoch ddelio â hynny’n daclus iawn, mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech roi syniad i ni pryd y gallwn ddisgwyl ymateb llawn i’r adroddiad Cymru Hanesyddol. Gobeithiaf y gallwch wneud hynny heddiw, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad i ni.
Tan hynny, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod eich rhagflaenwyr, er gwaethaf fy ymdrechion ar sawl achlysur i’w hudo i feddwl fel arall, wedi mynnu bob amser ei bod hi’n well i Cadw barhau’n rhan o’r Llywodraeth. Yn amlwg, mae gennych syniadau eraill, ac rwy’n falch o weld hynny, ond ni chredaf y byddech wedi comisiynu adroddiad Cymru Hanesyddol heb roi o leiaf rywfaint o ystyriaeth gynnar i’r sefyllfa pe bai Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth. Pa fanylion y gallwch eu rhoi ynglŷn â’ch gwaith cwmpasu paratoadol mewn perthynas â gwneud Cadw’n annibynnol ar y Llywodraeth? Sut y llwyddasoch i oresgyn dadleuon eich rhagflaenwyr? A oes gennych ffigurau dangosol o unrhyw fath—rwy’n sylweddoli fod hyn yn anodd—er mwyn inni gael syniad cyffredinol o’r costau, er nad ydych, wrth gwrs, wedi gwneud y penderfyniad terfynol eto? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiynau? Rwyf wedi derbyn adroddiad Cymru Hanesyddol y grŵp llywio. Mae’n adroddiad ardderchog. Rwy’n ei ystyried ar hyn o bryd a byddaf yn ymateb yn ffurfiol yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf hefyd yn aros am ymatebion ffurfiol gan y sefydliadau y mae’r papur yn ymwneud â hwy.
O ran Cadw, byddaf yn rhoi sylw arbennig i’r argymhelliad hwnnw. Mae Cadw wedi perfformio’n eithriadol o dda fel rhan o’r Llywodraeth dros y 12 mis diwethaf, ac rwyf am sicrhau bod y llwyddiant hwnnw’n parhau. Un o’r rhesymau pam fod Cadw wedi gweld cynnydd mor nodedig o ran nifer yr ymwelwyr ac aelodau, ac yn wir, o ran swm yr incwm a gynhyrchwyd, yw am fod rhyddid a hyblygrwydd gan y personél yn y sefydliad i weithredu mor fasnachol ag y dymunant. Pa un a yw Cadw’n aros yn rhan o’r Llywodraeth ai peidio, hoffwn sicrhau bod y bobl iawn yno—y bobl iawn, sy’n llawn dychymyg, os mynnwch—i arwain y sefydliad er mwyn denu mwy o ymwelwyr.
Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd.
Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r argymhellion yn cael eu cyflawni, nid ag unrhyw frys o leiaf. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi rhyw syniad inni ynglŷn â sut y mae eich adran yn monitro a chraffu ar eich partneriaid mewn gwirionedd, gan gynnwys awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau bod y syniadau da hynny’n trosi’n arferion da.
Rwy’n credu y dylai’r Aelodau fod wedi cael y wybodaeth ddiweddaraf ychydig cyn y Nadolig ynglŷn ag adolygiad y panel o arbenigwyr, yr argymhellion a sut rydym yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn. Derbyniwyd y rhan fwyaf o’r argymhellion gennym. Yr un argymhelliad yr oedd gennyf amheuon yn ei gylch oedd creu cyngor amgueddfeydd newydd a allai gystadlu â sefydliadau presennol neu sathru ar eu sodlau. Felly yn fy marn i, cyn sefydlu unrhyw sefydliadau neu grwpiau newydd, dylem archwilio yn gyntaf a yw’r rhai presennol yn cyflawni hyd eithaf eu gallu. Os nad ydynt, a oes angen gwneud newidiadau i’r sefydliadau hynny?
Mewn gwirionedd, roeddem wedi rhoi rhai o’r argymhellion eraill ar waith cyn i’r adolygiad gael ei gyhoeddi. Un ohonynt, er enghraifft, oedd fy nyhead i amgueddfeydd lleol allu cael mynediad at yr un math o gyllid â llyfrgelloedd lleol, er mwyn eu trawsnewid yn ganolfannau cymunedol gydol oes. Newidiais y meini prawf ar gyfer y gronfa honno a chynyddu’r swm o arian a oedd ar gael er mwyn i amgueddfeydd lleol allu elwa ar hynny.
Fe’i gelwir gan adroddiad y panel o arbenigwyr yn gronfa drawsnewid, ac mae’n wir ei bod yn gronfa drawsnewid, ond nid oeddwn yn awyddus i aros am ymateb i’r adroddiad ac i gamau gweithredu gael eu cymryd ar yr adroddiad cyn sicrhau bod yr adnodd gwerthfawr hwnnw, a allai gadw’r amgueddfeydd lleol yn fyw, ar gael ac yn cael ei ddefnyddio. Credaf fod y ffigurau’n addawol iawn ar hyn o bryd—mae amgueddfeydd lleol wedi dangos cryn ddiddordeb. O ran yr argymhellion eraill, rydym yn eu rhoi ar waith, ond mae’n rhaid i mi bwysleisio unwaith eto fy mod yn gyndyn i dderbyn yr un argymhelliad hwnnw gan fy mod o’r farn fod gennym y sefydliadau a’r grwpiau cywir ar hyn o bryd i gynrychioli’r sector amgueddfeydd.
Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa fath o drafodaethau a gawsoch gyda’r ysgrifennydd Cyllid ynglŷn ag a ellid—ac mae ‘a ellid’ yn gwestiwn dilys hefyd—a sut y gellid defnyddio pwerau amrywio treth incwm i annog y sector preifat—y math o sector preifat sydd gennym—i fuddsoddi yn y celfyddydau a threftadaeth.
Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn archwilio unrhyw fath o haelioni neu ostyngiad treth a allai alluogi rhoi i’r sector diwylliant a chwaraeon. Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar gynyddu argaeledd adnoddau, ac yn annog mwy o bobl—nid unigolion yn unig, ond busnesau yn ogystal â sefydliadau elusennol—i sicrhau bod y sector diwylliant yn ffynnu. Rwy’n fwy na pharod i edrych ar unrhyw gynllun a fyddai’n arwain at fwy o adnoddau i lyfrgelloedd, amgueddfeydd a chanolfannau’r celfyddydau. Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt da iawn, a byddaf yn ei ddwyn i sylw’r Gweinidog Cyllid.
Llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Hoffwn ddychwelyd, os caf, at fewnfuddsoddiad a’r rôl y dylai ei chwarae yn ein strategaeth economaidd ehangach. Bydd diddordeb gan Aelodau’r Cynulliad mewn gwybod bod y Prif Weinidog, yn yr ychydig funudau diwethaf, wedi dweud wrth y BBC y byddai taith i Detroit yn ddibwynt, ac o ystyried difrifoldeb y sefyllfa, byddai’n rhaid i lawer o sylwebwyr ddod i’r casgliad ei fod yntau’n Brif Weinidog eithaf dibwynt.
Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo baratoi i ddatgelu ei strategaeth economaidd newydd, pa mor bwysig y dylai mewnfuddsoddi fod i economi Cymru wrth symud ymlaen yn ei farn ef o ystyried bod yna lai o brosiectau mewnfuddsoddi mawr nag yn y gorffennol, ac nad ydym yn llwyddo i’w hennill. Ni lwyddasom i ennill Jaguar Land Rover a fydd yn gwneud yr injans o Ben-y-bont o hyn ymlaen. Chwe blynedd yn ôl, ni lwyddasom i ennill Boeing. Roedd pennawd yn y ‘Western Mail’ yn dathlu’r ffaith fod Cymru wedi dod yn ail. Roedd yn swnio fel rhai o’r cyfweliadau a glywsom yn ddiweddar ar ôl gêmau. A all Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cynnig hyd at £50 miliwn i Boeing ddod i Gymru, fel y clywais? A all gadarnhau hefyd mai un o’r rhesymau y penderfynodd Boeing beidio â dod oedd am eu bod yn pryderu ynglŷn â digonolrwydd ac ansawdd y sylfaen sgiliau leol?
Credaf fod yr Aelod yn iselhau ei hun gyda’i sylwadau dirmygus am y Prif Weinidog nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i roi sicrwydd i’r gweithwyr hynny. Ond mewn gwirionedd, mae’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yn yr ychydig funudau diwethaf yn cadarnhau fy mod wedi bod yn siarad â’r unigolyn cywir—yr un a fydd yn gwneud y penderfyniad ynglŷn â Ford. O ran prosiectau buddsoddi uniongyrchol o dramor, mae cynnydd o 77 y cant wedi bod yn nifer y prosiectau a chynnydd o 84 y cant yn nifer y swyddi gyda chwmnïau sydd â’u pencadlysoedd mewn rhannau eraill o’r DU yn dod i Gymru. Mae gennym hanes balch iawn o ddenu buddsoddiad i Gymru, fel y dengys Aston Martin. Wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn fwyfwy pwysig inni weithio gyda busnesau a buddsoddwyr yn Lloegr, a dyna pam y credaf y bydd allforion—nid dramor yn unig, ond hefyd allforion dros y ffin i Loegr, yr Alban ac Iwerddon—yn dod yn hanfodol. Credaf fod yn rhaid inni sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng denu mewnfuddsoddiad a sicrhau bod mwy o gwmnïau cynhenid a busnesau yng Nghymru yn allforio y tu hwnt i Gymru. Oherwydd hynny, rydym wedi bod yn glir iawn fod yn rhaid inni sicrhau mynediad dilyffethair a di-dariff at y farchnad sengl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n falch iawn—mae wedi cymryd peth amser—ond rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y DU yn siarad bellach am berthynas ddilyffethair a diffrithiant. Credaf fod hynny’n cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn iawn o’r cychwyn cyntaf i alw am fynediad dilyffethair heb unrhyw dariff na rhwystrau technegol sy’n atal cwmnïau yng Nghymru rhag allforio. Ond ar y cyfan, credaf y bydd allforion yn dod yn fwy pwysig i dwf a ffyniant economaidd Cymru.
Fel cenedl, wrth gwrs, bydd ein hadnoddau bob amser yn gyfyngedig—yn wir, mae prinder, wrth gwrs, yn un o egwyddorion sylfaenol economeg—felly mae angen inni fod yn hollol glir ein bod yn buddsoddi’r adnoddau prin hynny yn y mannau cywir lle y cânt yr effaith fwyaf. A gaf fi wahodd Ysgrifennydd y Cabinet, wrth iddo ddyfeisio a mireinio ei strategaeth economaidd, i edrych ar y prosiect ymchwil a gynhaliwyd gan dîm ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sy’n cynnwys yr Athrawon Brian Morgan, Gerry Holtham a Rob Huggins, ac sydd wedi edrych ar y gwahanol newidion sy’n gysylltiedig â llwyddiant economaidd ledled y byd? Roedd rhai canlyniadau’n peri syndod—neu ddim gymaint â hynny o syndod, efallai—ac yn dangos mai un o’r newidion pwysicaf yw lefel y gwariant ar addysg. Yn wir, fel y dywedodd yr Athro Holtham yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn hytrach nag ysbeilio’r gyllideb addysg, fel y gwnaethom dros y blynyddoedd diwethaf, er mwyn cynyddu ein cyllideb ddatblygu economaidd gonfensiynol mewn gwirionedd, efallai y dylem fod yn gwneud i’r gwrthwyneb, gan ymateb, er enghraifft, i’r alwad yn adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ddoe, am fuddsoddiad parhaus mewn addysg—ysgolion, addysg bellach a phrifysgolion—gan mai dyna un o’r penderfynyddion mwyaf dibynadwy mewn perthynas â llwyddiant economaidd yn y dyfodol.
Credaf fod yr Aelod yn gywir, a hoffwn ychwanegu bod addysg y blynyddoedd cynnar yn hynod o bwysig hefyd, a chredaf ei bod yn gwbl hanfodol fod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd, ac oherwydd hynny credaf ei bod hefyd yn iawn fod gennym addewid gofal plant uchelgeisiol iawn, a’n bod yn parhau i fuddsoddi mewn addysg gynnar. O’r holl ddata sydd ar gael, rydym wedi gallu canfod, o ran y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU mewn perthynas â gwerth ychwanegol gros, mai diffyg cynhyrchiant sy’n gyfrifol am y rhan helaeth o’r bwlch hwnnw, a bod y gwahaniaeth mewn cynhyrchiant yn ei dro yn deillio i raddau helaeth o ffactorau megis bylchau sgiliau. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn buddsoddi mewn hyfforddiant sgiliau yn y meysydd iawn er mwyn sicrhau bod pob unigolyn sy’n awyddus i gychwyn yn y gweithle yn meddu ar sgiliau o’r math cywir. Credaf hefyd fod yn rhaid inni wneud mwy nag addysgu pobl yn gyffredinol a rhoi sgiliau cyffredinol iddynt, ond ein bod yn arfogi pobl â’r sgiliau sy’n gydnaws â’u diddordebau a’u galluoedd cynhenid, fel y gallant sicrhau gyrfa hir mewn gweithle o’u dewis.
Y newidyn arall a nodwyd yn rhan o’r astudiaeth hon o gystadleurwydd economaidd byd-eang yw lefel arloesedd busnes—ymchwil a datblygu. Dros flwyddyn yn ôl, comisiynodd ei ragflaenydd adroddiad ail gam ar greu corff arloesi cenedlaethol penodol i Gymru, i godi lefel ein hymchwil a datblygu, yn y sector preifat ac mewn addysg uwch. A all roi rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r cynnydd mewn perthynas â sefydlu’r corff hwnnw, a hefyd, a all ymateb i wybodaeth a gefais sy’n awgrymu bod y cyfarwyddwr arloesi amser llawn a fu’n arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cyn-gyfarwyddwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi cael ei symud o’r swydd honno i swydd fel cyfarwyddwr chwaraeon, ac nad oes cyfarwyddwr arloesi amser llawn gennym bellach, sy’n sicr yn achos pryder o ystyried ei bwysigrwydd i’n strategaeth economaidd? Ac yn olaf, arloesedd yr ydym yn edrych ymlaen ato ym Mlaenau’r Cymoedd: rhaglen Cylchffordd Cymru—a all gadarnhau ei fod, cyn belled â bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu iddo mewn pryd, yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn dechrau purdah? ‘Does bosibl nad yw pobl Blaenau Gwent yn haeddu gwybod hynny cyn etholiadau mis Mai.
O ran arloesi, mae’r Arloesfa a chyrff neu fentrau eraill wedi gallu sbarduno arloesedd a menter yng Nghymru i gyrraedd uchelfannau newydd. Wedi dweud hynny, mae angen inni ddal i fyny â sawl rhan o’r DU: nid oes amheuaeth am hynny. Ond rhwng 1995 a 2015, roedd y cynnydd blynyddol cyfartalog mewn termau real gan fusnesau’n buddsoddi mewn ymchwil a datblygu mentrau, yn 5 y cant y flwyddyn, mewn cyferbyniad â chyfartaledd y DU o 2 y cant yn unig. Felly, mae mwy o dwf wedi bod yng Nghymru, ond mae angen inni sicrhau rhagor o fuddsoddiad o’r byd busnes, ac yn wir, gan y Llywodraeth, ond mae’n gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod yr her y gallai gadael yr Undeb Ewropeaidd ei chreu yn hyn o beth. Dyna pam y bûm yn eithaf clir hefyd y dylem ni yng Nghymru ddisgwyl cyfran sylweddol o’r £2 biliwn y mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros fusnes a menter wedi’i gyhoeddi ar gyfer ymchwil a datblygu ledled y DU.
O ran y pennaeth arloesi yn Llywodraeth Cymru, hyd y gwn i, mae un o’r academyddion mwyaf nodedig yn y maes hwn yn gyfrifol am arloesi ac mae gennyf ffydd y bydd y swyddog hwnnw’n arwain tîm ymroddgar ac effeithiol a fydd yn sicrhau rhagor o adnoddau ar gyfer ymchwil a datblygu, nid yn unig yn y sector preifat, ond ar draws y maes academaidd, ac yn sicrhau bod sylw’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n gweithio orau i sbarduno menter o fewn economi Cymru.
O ran Cylchffordd Cymru, dywedais ym mis Ionawr fy mod yn credu bod pobl Glynebwy yn haeddu penderfyniad ar y prosiect hwn cyn gynted â phosibl. Dyna pam y gofynnais i’r datblygwyr gyflwyno cynnig cadarn a ffurfiol o fewn yr amser a roddais iddynt. Daethant â chynnig yn ôl. Dywedais wedi hynny y byddem yn dechrau proses o ddiwydrwydd dyladwy, a fyddai’n para rhwng pedair a chwe wythnos wedi’r adeg y daeth y wybodaeth i law. Rwy’n dal i obeithio na fydd ond yn para rhwng pedair a chwe wythnos wedi i’r holl wybodaeth ddod i law, ac os gellir gwneud penderfyniad yn yr amser cyn dechrau purdah, yna yn sicr dylid gwneud hynny. Ond mae hyn yn nwylo’r datblygwyr ar hyn o bryd. Mae angen y wybodaeth arnom er mwyn dechrau’r broses o ddiwydrwydd dyladwy fel bod modd gwneud penderfyniad cyn dechrau purdah os yw’n mynd i gael ei wneud bryd hynny.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, bu’r Pwyllgor Economi a Seilwaith yn ystyried strategaeth cynnig Llywodraeth Cymru i gyflenwi masnachfraint y gororau a’r prosiect metro. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull contract integredig, sy’n golygu, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ddeiliad masnachfraint y rheilffyrdd—pwy bynnag y bo—gydweithio’n agos iawn â’r cwmni seilwaith a ddewisir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’n ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng y rhai sy’n ymgeisio am y fasnachfraint a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses dendro ar gyfer y seilwaith er mwyn sefydlu rhywfaint o gydweddoldeb?
Rydym yn annog pob un o’r ymgeiswyr i ymgysylltu cymaint â phosibl gyda’r rhanddeiliaid presennol a rhanddeiliaid posibl yn y dyfodol i sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yn y fasnachfraint newydd ac yn y metro, a bod y buddsoddiad yn cael ei sianelu yn y ffordd iawn er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau mor effeithlon ac mor fodern â phosibl.
Onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod cael perthynas waith effeithiol rhwng y ddau barti yn hanfodol er mwyn cyflenwi’r prosiect ar amser ac o fewn y gyllideb?
Ydw, rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Dymunwn weld perthynas gref yn cael ei datblygu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am y traciau a’r rhai sy’n gyfrifol am y cerbydau sy’n rhedeg arnynt. Credaf fod yr hyn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ddiweddar ynglŷn â dod â Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd at ei gilydd mewn rhyw ffordd yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, mae’r hyn a argymhellir gennym yng Nghymru yn debyg i raddau, ond yn hytrach na phreifateiddio’r holl system, byddwn yn dod â hi’n nes, mewn gwirionedd, at berchnogaeth gyhoeddus.