<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 1 Mawrth 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 2:17, 1 Mawrth 2017

(Cyfieithwyd)

Y newidyn arall a nodwyd yn rhan o’r astudiaeth hon o gystadleurwydd economaidd byd-eang yw lefel arloesedd busnes—ymchwil a datblygu. Dros flwyddyn yn ôl, comisiynodd ei ragflaenydd adroddiad ail gam ar greu corff arloesi cenedlaethol penodol i Gymru, i godi lefel ein hymchwil a datblygu, yn y sector preifat ac mewn addysg uwch. A all roi rhywfaint o wybodaeth ynglŷn â’r cynnydd mewn perthynas â sefydlu’r corff hwnnw, a hefyd, a all ymateb i wybodaeth a gefais sy’n awgrymu bod y cyfarwyddwr arloesi amser llawn a fu’n arwain ymdrechion Llywodraeth Cymru yn y maes hwn, cyn-gyfarwyddwyr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, wedi cael ei symud o’r swydd honno i swydd fel cyfarwyddwr chwaraeon, ac nad oes cyfarwyddwr arloesi amser llawn gennym bellach, sy’n sicr yn achos pryder o ystyried ei bwysigrwydd i’n strategaeth economaidd? Ac yn olaf, arloesedd yr ydym yn edrych ymlaen ato ym Mlaenau’r Cymoedd: rhaglen Cylchffordd Cymru—a all gadarnhau ei fod, cyn belled â bod yr holl wybodaeth yn cael ei darparu iddo mewn pryd, yn bwriadu gwneud cyhoeddiad cyn dechrau purdah? ‘Does bosibl nad yw pobl Blaenau Gwent yn haeddu gwybod hynny cyn etholiadau mis Mai.