Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 1 Mawrth 2017.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, y bore yma, bu’r Pwyllgor Economi a Seilwaith yn ystyried strategaeth cynnig Llywodraeth Cymru i gyflenwi masnachfraint y gororau a’r prosiect metro. Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull contract integredig, sy’n golygu, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ddeiliad masnachfraint y rheilffyrdd—pwy bynnag y bo—gydweithio’n agos iawn â’r cwmni seilwaith a ddewisir. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud a yw’n ymwybodol o unrhyw drafodaethau rhwng y rhai sy’n ymgeisio am y fasnachfraint a’r rhai sy’n cymryd rhan yn y broses dendro ar gyfer y seilwaith er mwyn sefydlu rhywfaint o gydweddoldeb?