Part of 2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 1 Mawrth 2017.
Ydw, rwy’n cytuno â’r Aelod. Mae hynny’n gwbl hanfodol. Dymunwn weld perthynas gref yn cael ei datblygu rhwng y rhai sy’n gyfrifol am y traciau a’r rhai sy’n gyfrifol am y cerbydau sy’n rhedeg arnynt. Credaf fod yr hyn a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth yn ddiweddar ynglŷn â dod â Network Rail a gweithredwyr rheilffyrdd at ei gilydd mewn rhyw ffordd yn ddiddorol iawn. Wrth gwrs, mae’r hyn a argymhellir gennym yng Nghymru yn debyg i raddau, ond yn hytrach na phreifateiddio’r holl system, byddwn yn dod â hi’n nes, mewn gwirionedd, at berchnogaeth gyhoeddus.